Â鶹´«Ã½AV

En

Mae'r ffordd rydyn ni'n edrych yn newid


17 Medi 2024

Eich Coleg o DdewisÌýÌý

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn gwneud rhywfaint o newidiadau i’r ffordd rydym yn edrych. Un o’r pethau cyntaf y byddwch chi’n sylwi arno yw ein logo newydd.Ìý

Mae’r newid hwn yn gam cyffrous iawn ar ein taith i ddangos yn glir pwy ydyn ni a pham ni yw Eich Coleg o Ddewis.

Pam ydyn ni’n gwneud y newid hwn?Ìý

Fel y coleg mwyaf yn ne Cymru, rydym yn ymrwymedig i rymuso unigolion o bob cefndir i gyflawni eu potensial llawn. Credwn y dylai ein brand adlewyrchu pwy ydyn ni – coleg cynhwysol, gofalgar a grymusol. Mae ein gwedd wedi’i diweddaru wedi’i dylunio i gyfleu’r gwerthoedd hyn yn well a dangos i’r byd yr hyn sy’n gwneud Â鶹´«Ã½AV yn arbennig.Ìý

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?Ìý

Dros y misoedd nesaf, byddwch chi’n dechrau gweld ein brandio newydd ar draws ein platfformau’r cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan a’n deunyddiau marchnata. Er ein bod yn gyffrous i gyflwyno’r diweddariadau hyn, bydd yn cymryd ychydig o amser i ni ddiweddaru popeth. Rydym hefyd wedi ymrwymo i fod yn gyfrifol yn amgylcheddol ac, er mwyn osgoi gwastraff, byddwn yn parhau i ddefnyddio deunyddiau sydd eisoes wedi’u hargraffu cyn cynhyrchu rhai sy’n cynnwys y brand newydd, felly efallai y byddwch chi’n sylwi ar yr hen logo ar bethau wrth i ni symud o un i’r llall.

Gwedd newydd ar gyfer Eich Coleg o DdewisÌýÌý

Yn Â鶹´«Ã½AV, rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i gyrraedd eich nodau. Rydym yn cynnig yr ystod fwyaf o gyrsiau yng Nghymru ar draws pum campws unigryw gan roi dewis i chi o blith cyrsiau galwedigaethol, cyrsiau academaidd a chyrsiau addysg uwch. Mae hunaniaeth ein brand wedi’i hailddiffinio yn ffordd arall o ddangos ein hangerdd am greu cyfleoedd i bob dysgwr.Ìý

Ìý