Â鶹´«Ã½AV

En
Students celebrating exam results

Anelu’n uchel yn Â鶹´«Ã½AV - wrth i brentis GE Aerospace ddathlu llwyddiant


15 Awst 2024

…ynghyd â miloedd o fyfyrwyr eraill sydd wedi ennill graddau A*-C

Mae myfyrwyr yn Coleg Gwent – un o golegau gorau Cymru o ran y dewis sydd ar gael yno – yn dathlu heddiw (15 Awst) wrth iddynt gasglu canlyniadau BTEC, UG a Safon Uwch ar gampysau’r coleg ym Mlaenau Gwent, Crosskeys, Casnewydd, Brynbuga a Thorfaen.Ìý

Llwyddodd 96% o fyfyrwyr y coleg i ennill graddau A*-E (67% A*-C) mewn Safon Uwch, tra bod mwy na 1,000 o ddysgwyr wedi cwblhau cymhwyster BTEC – gan alluogi dysgwyr i gymryd eu camau cyntaf i fyd addysg uwch a gyrfaoedd newydd.

Mae Molly McAlorum o Gasnewydd yn un o’r dysgwyr sydd wrth eu boddau ac sy’n paratoi i ddechrau pennod newydd ar ôl cael canlyniadau eithriadol (Rhagoriaeth*, Rhagoriaeth, Rhagoriaeth). Wedi dwy flynedd yn Â鶹´«Ã½AV, bydd y myfyriwr Diploma Busnes Lefel 3 yn awr yn cychwyn ar brentisiaeth busnes nodedig yn GE Aerospace.Ìý

Dywedodd Molly: “Dechreuais fy nghyfnod yn Â鶹´«Ã½AV heb wybod yn iawn beth roedd arna i eisiau ei wneud fel gyrfa – ond yn ystod fy nghyfnod yn y coleg fe ges i lond gwlad o gyfleoedd na fyddwn i wedi’u cael fel arall. Ìý

“Ar ôl clywed fy mod am gael cyfweliad gyda GE Aerospace cefais gefnogaeth anhygoel gan fy nhiwtor personol, a dreuliodd oriau yn fy helpu i baratoi. Rhoddodd hyn y cyfle gorau oll i mi lwyddo, ac wrth i mi sefyll yma heddiw gyda chanlyniadau yr un mor llwyddiannus yn fy niploma, rwy’n teimlo mor falch a diolchgar.”Ìý

Fodd bynnag, ni fu taith Molly tuag at lwyddiant yn un rwydd ar ei hyd. Fel llawer o bobl ifanc yng Nghymru heddiw, fe wnaeth ei haddysg gyd-daro â thaith anodd o ran iechyd meddwl.ÌýÌý

O ganlyniad i symptomau cynyddol gorbryder, trosglwyddodd Molly i addysg gartref yn ystod ei blwyddyn olaf yn yr ysgol – gan olygu bod y ffaith ei bod wedi dychwelyd i’r coleg a chael y fath ganlyniadau hyd yn oed yn fwy nodedig.Ìý

Aeth yn ei blaen i ddweud: “Roeddwn i’n bryderus iawn ynghylch dechrau yn y coleg – ond cwrddais â’r tîm iechyd meddwl yn Â鶹´«Ã½AV ymlaen llaw ac fe dawelwyd fy meddwl yn syth.”Ìý

Dywedodd Sarwat Hamid, tiwtor personol Molly yn Â鶹´«Ã½AV: “Yn wyneb brwydrau personol sylweddol, mae Molly wedi dangos cryfder a dyfalbarhad rhyfeddol – nid yn unig yn rhagori’n academaidd ond hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol cadarnhaol, fel hyfforddwr i’r tîm pêl-droed merched lleol.Ìý

“Trwy gydol ei thaith, mae Molly wedi dangos parodrwydd canmoladwy i ofyn am gefnogaeth ac i ddefnyddio arferion hunanofal i reoli ei hiechyd meddwl yn effeithiol. Mae’r ffaith ei bod wedi defnyddio’r gefnogaeth a gynigir yn Â鶹´«Ã½AV drwy gwnsela a’n tîm Cymorth CG yn brawf o hyn. Ìý

“Drwyddi draw, mae taith Molly a’r brentisiaeth hynod o gyffrous sydd ganddi ar y gweill yn ein hatgoffa mewn ffordd rymus bod modd goresgyn yr heriau anoddaf, hyd yn oed, gyda phenderfyniad, cefnogaeth a meddylfryd cadarnhaol.”Ìý

Yn ogystal â llwyddiant mewn BTEC a Safon Uwch, mae dros 150 o ddysgwyr sy’n oedolion wedi cwblhau eu cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn llwyddiannus gyda Â鶹´«Ã½AV a byddant yn symud ymlaen i gyrsiau gradd ar lefel prifysgol.Ìý

Maent yn cynnwys Kamal Shah, a fydd, ar ôl astudio ar y cwrs Mynediad i Addysg Uwch mewn Biowyddoniaeth yn Â鶹´«Ã½AV, yn astudio Bioleg ym Mhrifysgol Caerfaddon. Meddai:Ìý “Wnes i ddim parhau â fy ail flwyddyn o’r cwrs Safon Uwch oherwydd salwch difrifol – felly roedd cwblhau’r cwrs mynediad yn ymddangos fel opsiwn da ar gyfer dal i allu mynd i’r brifysgol. Ìý

“Os oes gennych chi’r amser i wneud y cwrs a’ch bod am fynd i brifysgol, yna mae’r cwrs hwn yn berffaith.”Ìý

Dywedodd Nicola Gamlin, Dirprwy Bennaeth: “A minnau’n mynd i fod yn Bennaeth newydd ar Â鶹´«Ã½AV, rwy’n falch o weld llwyddiannau eithriadol ein myfyrwyr unwaith eto eleni. Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i’w gwaith caled, eu penderfyniad a chefnogaeth ddiwyro ein staff ymroddedig.Ìý

“Edrychwn ymlaen at weld y talentau a ddatblygwyd yn Â鶹´«Ã½AV yn symud ymlaen i’w camau nesaf – boed hynny drwy addysg bellach neu drwy fynd i fyd gwaith. Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr am eu llwyddiannau eithriadol.”Ìý

Darllenwch fwy am ein straeonÌýllwyddiant dysgwyr!