Â鶹´«Ã½AV

En
Students celebrating exam results

Llongyfarchiadau i ddosbarth 2024


15 Awst 2024

Mae heddiw yn ddiwrnod o ddathlu ar gyfer myfyrwyr Â鶹´«Ã½AV, wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau BTEC, UG a Lefel A

Llwyddodd 67% o fyfyrwyr y coleg i ennill graddau A*-C mewn Safon Uwch, tra bod mwy na 1,000 o ddysgwyr wedi cwblhau cymhwyster BTEC – gan alluogi dysgwyr i gymryd eu camau cyntaf i fyd addysg uwch a gyrfaoedd newydd.

Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr sydd wedi gweithio’n galed i gyflawni eu nodau a gwireddu eu breuddwydion.

Dyma rai o’n straeon llwyddiant:

Molly McAlorum

Molly McAlorum

Campws
Parth Dysgu Torfaen
Cwrs
Diploma Busnes (Lefel 3)
Graddau
Rhagoriaeth (D* D D)

Y flwyddyn cyn imi fynd i’r coleg roeddwn i’n dioddef o orbryder, felly roeddwn i’n bryderus iawn ynghylch dechrau yn y coleg, ond ar ôl imi gwrdd â’r tîm iechyd meddwl fe dawelwyd fy meddwl yn syth.

Yn ystod y 2 flynedd y bues i’n astudio yno, doeddwn i ddim yn sicr beth yr oedd arna i eisiau ei wneud, ond trwy siarad â thiwtoriaid, mynd i ddyddiau agored a chael ymwelwyr â’r coleg, fe ges i lond gwlad o gyfleoedd na fyddwn i byth wedi’u cael heb Goleg Gwent.

Erbyn hyn mae gen i brentisiaeth busnes gyda GE Aerospace, sy’n gyfle gwirioneddol dda i mi ddechrau fy ngyrfa. Rydw i wedi cael cymaint o gefnogaeth gan fy nhiwtoriaid wrth iddyn nhw fy helpu i i baratoi ar gyfer y broses gyfweld. Roedd gallu defnyddio’r llyfrgell yn y coleg hefyd wedi fy helpu i baratoi, gan fy mod i’n gallu mynd ar y rhyngrwyd ac ymchwilio.

Bella Davison

Bella Davison

Campws
Crosskeys
Cwrs
Lefel A Seicoleg, Lefel A Cymdeithaseg, Diploma Troseddeg, Bagloriaeth Sgiliau Uwch
Graddau
A* A* A A

Fe wnes i astudio cymdeithaseg ar gyfer TGAU a gwirioni’n llwyr ar y pwnc, ac roedd arna i eisiau astudio rhagor arno. Ychydig iawn yr oeddwn i’n ei wybod am seicoleg a throseddeg fel dewisiadau Lefel A ond pan es i ddiwrnod agored ar gampws Crosskeys fe ddangosodd y darlithwyr imi pa mor ddiddorol ydyn nhw a pha mor dda yr oedd y tri phwnc yn gweddu i’w gilydd.

Ar ôl astudio mae arna i eisiau parhau â throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe, a dod yn dditectif gyda’r heddlu gobeithio. Fe wnaeth Â鶹´«Ã½AV fy helpu i sylweddoli gymaint o opsiynau oedd gen i ar gyfer fy nyfodol. Roedd pob darlithydd yn gallu fy nhywys wrth imi benderfynu ar ba yrfa yr oedd arna i eisiau ei dilyn a pha gyrsiau fyddai’r rhai gorau er mwyn mynd â fi i’r cyfeiriad hwnnw. Y tu hwnt i hynny, fe ges i hefyd lawer iawn o gymorth o ran technegau adolygu, sgiliau ysgrifennu traethodau a threfnu, a chefnogaeth emosiynol. Rwy’n awr yn teimlo’n llawer mwy parod ar gyfer y brifysgol, o ran yr agweddau academaidd a’r rhai cymdeithasol.

Kamal Shah

Kamal Shah

Campws
Parth Dysgu Torfaen
Cwrs
Mynediad i AU Biowyddorau (Lefel 3)
Graddau
Pasio

Gan fy mod i wedi gorffen fy nghwrs, rwy’n dechrau yn y Brifysgol ym mis Medi, yn astudio Bioleg ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Roedd pob un o fy nhiwtoriaid mor gefnogol. Pan ddechreuais i feddwl am wneud cais i brifysgolion Grŵp Russell, fe wnaeth fy nhiwtoriaid fy annog i wneud hynny, gan gredu yn fy ngallu i gael cynigion ganddynt, hyd yn oed pan oeddwn i’n ansicr am hynny fy hun.

Os oes gennych chi’r amser i wneud y cwrs a’ch bod chi eisiau cyrraedd prifysgol, yna mae’r cwrs yma’n berffaith.

Kasia Tomsa

Kasia Tomsa

Campws
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Cwrs
Bagloriaeth Sgiliau Uwch, Lefel A Bioleg, Daearyddiaeth, Mathemateg
Graddau
A* A A C

Ar ôl gorffen fy Safon Uwch, rwy’n gobeithio mynd i’r Brifysgol i astudio Sŵoleg ac yna dechrau gyrfa ym maes cadwraeth bywyd gwyllt. Trwy gydol fy nghyfnod yng Ngholeg Gwent, cefais lawer o gyfleoedd i ennill sgiliau a fyddai’n helpu yn y Brifysgol. Er enghraifft, cefais fy ariannu i gymryd rhan yn rhaglen The Brilliant Club a oedd yn caniatáu i mi brofi dysgu yn null prifysgol gyda myfyriwr PhD ac argymhellwyd Cwrs Preswyl Biowyddorau Caergrawnt i mi lle roeddwn yn gallu cymryd rhan mewn ystod o ddarlithoedd Bioleg i ennill profiad a sgiliau.

Byddwn yn bendant yn argymell Â鶹´«Ã½AV i unrhyw un sy’n ystyried hynny ar gyfer eu haddysg bellach! Roedd diwylliant fy nghampws yn gefnogol, yn gydweithredol ac yn ysbrydoledig ac yn fy helpu i deimlo’n hyderus yn ystod fy nghyfnod yno ac ar gyfer y dyfodol.

Rhianna Lewis

Rhianna Lewis

Campws
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Cwrs
Bagloriaeth Sgiliau Uwch, Lefel A Cyfraith, Hanes, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Ar ôl astudio yn y coleg, rwy’n bwriadu dechrau fy ngradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. I mi, roedd Â鶹´«Ã½AV yn allweddol wrth gynnig y cymorth yr oeddwn ei angen er mwyn cyrraedd yno. Fel rhywun oedd yn angerddol am yrfa yn y gyfraith o’r eiliad y dechreuais i yn y coleg, roedd fy athrawon bob amser yn gefnogol ac wrth law os oedd gen i unrhyw gwestiynau am sut y gallwn i symud ymlaen yn yr yrfa hon.

Ni fyddaf byth yn anghofio’r awyrgylch croesawgar y mae Â鶹´«Ã½AV wedi’i ddarparu drwy gydol fy amser yma. O’r ffeiriau croeso i’r ffeiriau llesiant, roeddwn bob amser yn teimlo fy mod yn cael fy ngweld a fy nghlywed. Dim ots pa broblem oedd gen i, roedd wastad rhywun yna i gynnig datrysiad.

Nid yw Â鶹´«Ã½AV erioed wedi teimlo fel lle addysg ond yn hytrach yn rhywle lle rwy’n rhydd i feddwl drosof fy hun, ac yn cael fy annog i wneud hynny. Byddwn yn bendant yn argymell mynychu Â鶹´«Ã½AV

Chloe Simmonds

Chloe Simmonds

Campws
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Cwrs
Bagloriaeth Sgiliau Uwch, Lefel A Mathemateg, Ffiseg, Mathemateg Bellach
Graddau
A A B C

Ar ôl Coleg rwy’n gobeithio mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio gradd Meistr mewn Peirianneg Fecanyddol gyda blwyddyn mewn diwydiant, yna rwy’n gobeithio mynd i faes Fformiwla 1. Mae’r coleg wedi fy helpu gymaint wrth baratoi ar gyfer hyn mewn addysg a sgiliau. Y prif beth mae’r coleg wedi’i roi i mi baratoi ar gyfer fy nyfodol yw hyder. Rwy’n credu bod fy nghyfnod yn y coleg wedi rhoi cymaint o hyder i mi ym mhob agwedd oherwydd yr amgylchedd cefnogol lle cewch eich annog i fynd ar drywydd unrhyw beth rydych yn ei ddymuno.

Byddwn yn annog pawb i ymddiddori a chymryd rhan mewn bywyd coleg. Cymerwch ran bob amser a gwnewch gais am bob cyfle oherwydd gallant agor cymaint o ddrysau a rhoi cymaint o brofiadau i chi. Dwi wedi gallu bod yn rhan o gymaint o bethau anhygoel yn y coleg drwy ymuno mewn gweithgareddau a dwi’n credu ei fod yn gwneud eich profiad coleg gymaint yn fwy gwerthfawr.

Hannah Cushing

Hannah Cushing

Campws
Brynbuga
Cwrs
Gofalu am Anifeiliaid (Lefel 2)
Graddau
Rhagoriaeth

Ar ôl fy Lefel 2, rwy’n symud ymlaen i fy Lefel 3. Mae gen i gyfweliad am swydd cynorthwyydd gofalu am anifeiliaid yn ysbyty PDSA yng Nghaerdydd lle bydda i’n parhau i ddatblygu.

Mae bod yn ôl yn y coleg wedi bod yn gymaint o hwb imi. Rwy’n teimlo bod gen i reolaeth ar fy mywyd eto, a’m bod i’n mynd i’r cyfeiriad y mae arna i eisiau mynd iddo.

Treuliwch amser yn datblygu, waeth faint oed ydych chi. Dim ond chi all wneud y penderfyniad i fynd â’ch bywyd i’r cyfeiriad cywir.