Â鶹´«Ã½AV

En

Clirio 2024

Students in HE Hub

Mae Clirio 2024 - AR AGOR nawr

P’un a ydych yn ansicr o’ch graddau, wedi rhagori ar eich disgwyliadau, neu os ydych wedi newid eich meddwl – rydym yma i’ch helpu chi.

Yn Â鶹´«Ã½AV, mae gennym dros 30 o gyrsiau lefel prifysgol ar gael i’w hastudio, yma ar eich stepen ddrws – ac nid yw hi’n rhy hwyr i wneud cais.

Edrychwch ar ein cyrsiau

Angen cymorth?

Os ydych chi wedi gwneud cais am gwrs drwy UCAS ac yn dymuno symud i brifysgol wahanol, cymerwch gip ar dudalen we UCAS am ragor o wybodaeth , neu ffoniwch nhw ar 0371 468 0468

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio cymhwyster lefel prifysgol yn Â鶹´«Ã½AV, gallwch ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi drwy ein ffonio ar 01495 333 777

Beth yw Clirio?

Clirio yw cam o’r broses ymgeisio ar gyfer unrhyw un sydd heb gyflawni’r canlyniadau disgwyliedig, sydd wedi rhagori ar eu disgwyliadau, neu sydd, yn syml, wedi newid eu meddwl. Mae clirio yn gyfle gwych i fachu lle ar gwrs cyn dechrau’r tymor – mae lleoedd yn llenwi’n gyflym, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl.

A oes angen i mi wneud cais drwy UCAS i astudio cwrs yn Â鶹´«Ã½AV?

Nac oes, gallwch wneud cais ar ein gwefan. Rydym yn dal i groesawu ceisiadau.

Beth os nad wyf yn bodloni'r gofynion mynediad?

Rydym yn ystyried pob cais yn unigol, ond os nad ydych yn bodloni’r gofynion ar gyfer cwrs addysg uwch (lefel prifysgol) yn Â鶹´«Ã½AV, efallai bydd opsiwn i astudio cwrs amgen a fydd yn eich rhoi ar y trywydd iawn. Os ydych yn ansicr, ffoniwch ni ar 01495 333 777.

Cyrsiau ar gael drwy'r broses glirio yn Â鶹´«Ã½AV

34 cwrs ar gael