YMCA Gwobr mewn Hyfforddiant Ymarfer Corff Grwp - Beicio Dan Do Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£90.00
Dyddiad Cychwyn
09 Tachwedd 2024
Dydd Sadwrn a Dydd Sul
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
15:30
Hyd
2 wythnos
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i gynllunio a chyfarwyddo'n broffesiynol SesiynauÌýseiclo y tu mewn sy'n ddiogel ac yn effeithiol o fewn amgylchedd campfa neu glwb iechyd.
Ìý
Bydd dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau i ddod yn hyfforddwr beicio dan do mewn grwp, o fewn cyd-destun, gan fodloni gofynion y diwydiant a nodir yn safon broffesiynol CIMSPA.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector ffitrwydd ond sydd eisiau ennill sgiliau newydd
...y rhai sydd eisiau ychwanegu at eu gwybodaeth a’u sgiliau presennol i gwrdd â safon broffesiynol Hyfforddwr Ymarfer Grwp Craidd CIMSPA.
Cynnwys y cwrs
Bydd dysgwyr yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau i ddod yn arweinydd ymarfer corff grwp, o fewn cyd-destun, gan fodloni gofynion y diwydiant sydd wedi'u nodi yn safon broffesiynol graidd ymarfer grwp CIMSPA.
Ar gyfer Dyfarniad Lefel 2 YMCA mewn Arwain Ymarfer Corff Grwp: Seiclo tu mewn grwp bydd rhaid i ddysgwyr gyflawni 2 uned orfodol:
- Egwyddorion cynllunio a chyflwyno sesiynau ymarfer corff grwp
- Cynllunio a chyflwyno ymarfer cylchol grwp
Wedi'i gynnal yn y stiwdio sbin ar gampws Brynbuga, mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â:
- Buddion seiclo grwp dan do
- Iechyd a diogelwch mewn perthynas â seiclo grwp dan do
- Sut i ddylunio ac addysgu sesiynau effeithiol a diogel
- Egwyddorion a newidynnau a ddefnyddir o fewn sesiwn
- Sut i fonitro ac annog cyfranogwyr
- Sut i ddefnyddio cerddoriaeth yn ystod sesiynau
- Sut i asesu a myfyrio ar ddarparu seiclo grwp dan do.
Bydd angen ichi fod wedi ymrwymo'n llawn i fynychu ac yn barod i gyfrannu yn y sesiynau. Byddwch yn cael eich asesu drwy bortffolio o dystiolaeth ac arddangosiad ymarferol/aseiniad.
Wedi ichi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen at Gampfa Lefel 2, Ymarfer Corff i Gerddoriaeth Lefel 2, Ymarfer Corff a Gweithgareddau Corfforol i Blant Lefel 2, Hyfforddi Sesiynau Cylchol neu swydd yn y diwydiant ffitrwydd.
Gofynion Mynediad
Rhaid i chi fod wedi cwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Hyfforddiant Ffitrwydd i gael lle ar y cwrs hwn neu fod wedi cwblhau'r unedau gorfodol canlynol:
• Anatomi a ffisioleg ar gyfer hyfforddwyr ymarfer corff a ffitrwydd
• Darparu profiad cwsmer cadarnhaol yn yr amgylchedd ymarfer corff
• Rheoli ffordd o fyw ac ymwybyddiaeth iechyd
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnal dros ddeuddydd (ar y penwythnos) ar gampws Brynbuga, ac mae'n orfodol eich bod yn mynychu'r deuddydd.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UCAW0270AD
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 09 Tachwedd 2024
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr