Â鶹´«Ã½AV

En

Cymorth Pontio

Transition staff on red background
play

Eich siwrnai

Mae trosglwyddo o’r ysgol uwchradd i’r coleg yn daith gyffrous, llawn cyfleoedd a phrofiadau newydd. Yn Â鶹´«Ã½AV, deallwn y gall y cyfnod pontio hwn fod yn heriol ar adegau, a dyna pam yr ydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Mae ein tudalen Cymorth Pontio wedi’i dylunio i ddarparu’r arweiniad, y wybodaeth a’r adnoddau a fydd eu hangen arnoch ar gyfer pontio’n ddidrafferth a llwyddiannus i’r coleg.

Cwestiynau Cyffredin

A yw’r coleg fel ysgol uwchradd?

Un camsyniad cyffredin yw taw dim ond estyniad o’r ysgol uwchradd yw’r coleg. Er bod ganddyn nhw rai pethau mewn cyffredin, mae Â鶹´«Ã½AV yn cyflwyno lefel newydd o annibyniaeth a chyfrifoldeb personol. Mae amgylchedd y coleg yn cynnig rhagor o ryddid ac yn mynnu bod dysgwyr yn defnyddio rhagor o fenter eu hunain wrth iddyn nhw reoli eu hastudiaethau a’u hamserlenni. Felly, bydd cyrraedd eich dosbarth a gwneud eich gwaith cwrs i fyny i chi.

Oes rhaid i mi fod yn gyflawnwr academaidd uchel i fynychu Â鶹´«Ã½AV?

Dim o gwbl. Mae Â鶹´«Ã½AV yn cynnig ystod eang o gyrsiau i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau a galluoedd. P’un a ydych yn rhagori yn academaidd, yn meddu ar sgiliau ymarferol, neu am ddilyn hyfforddiant galwedigaethol, mae gan Goleg Gwent gannoedd o opsiynau i weddu i’ch cryfderau a’ch uchelgeisiau.

Oes rhaid i mi dalu am y coleg?

Os ydych yn gadael yr ysgol ac yn edrych am astudio cwrs amser llawn, yna na, nid oes rhaid i chi dalu am y coleg. Os ydych chi’n edrych ar gyrsiau rhan-amser neu addysg uwch, efallai y bydd ffioedd yn berthnasol. Fodd bynnag, mae Â鶹´«Ã½AV yn darparu opsiynau cymorth ariannol megis grantiau, benthyciadau myfyrwyr ac LCA i helpu myfyrwyr i gadw’r gost addysg o dan reolaeth.

Oes rhaid i mi wybod beth rydw i eisiau ei wneud yn y dyfodol?

Mae rhai pobl yn meddwl bod y coleg ar gyfer y rheini sydd â llwybr gyrfa clir mewn golwg. Yma yn Â鶹´«Ã½AV, credwn fod y coleg yn cynnig cyfle gwerthfawr ar gyfer archwilio a darganfod. Wrth i chi ddewis eich cwrs, mae’n werth meddwl pa bynciau sydd o ddiddordeb i chi a pham. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch, byddwn yn darparu gwasanaethau canllaw gyrfa i’ch helpu i archwilio’ch opsiynau fel y gallwch wneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol. A chofiwch, nid yw byth yn rhy hwyr i newid llwybrau gyrfa neu ddilyn diddordebau newydd, felly peidiwch â chynhyrfu os ydych yn ansicr.

Beth arall galla i ei wneud yn Â鶹´«Ã½AV?

Er bod addysg, heb os, yn rhan sylweddol o’r profiad coleg, mae llawer mwy i Â鶹´«Ã½AV na dim ond astudio. Mae’r coleg yn cynnig cymuned fywiog ac amrywiol lle gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, ymuno â chlybiau, cymryd rhan mewn chwaraeon a datblygu medrau bywyd gwerthfawr. Yn ogystal â rhoi hwb i’ch CV, bydd y gweithgareddau hyn yn rhoi cyfleoedd gwych i chi wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, helpu eraill, a gwella eich iechyd a’ch llesiant.

A yw Â鶹´«Ã½AV ar gyfer ymadawyr ysgol yn unig?

Mae Â鶹´«Ã½AV yn croesawu myfyrwyr o bob oedran a chefndir. P’un a ydych wedi gadael yr ysgol, yn ddysgwr sy’n oedolyn neu’n rhywun sydd am wella’ch sgiliau neu newid gyrfa, gall Â鶹´«Ã½AV fod yn llwybr addysgol gwerthfawr ar gyfer unigolion ar unrhyw adeg o’u bywyd.

Yn Â鶹´«Ã½AV, rydym wedi ymrwymo i’ch llwyddiant ac rydym am wneud eich trosglwyddiad i’r coleg mor ddidrafferth â phosib. Gallwch gymryd golwg ar ein gwefan, estyn allan at ein tîm, a pharatoi ar gyfer taith coleg anhygoel sy’n llawn o gynnydd, dysgu a chyfleoedd cyffrous. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gymuned Â鶹´«Ã½AV!

Meddwl am Ymuno â Â鶹´«Ã½AV?

Meddwl am ymuno a Â鶹´«Ã½AV
play