City & Guilds Dyfarniad mewn Profion MOT Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn ar gyfer y rhai hynny sy'n ystyried ymgeisio am eu trwydded i ddod yn brofwr MOT neu'n archwiliwr awdurdodedig.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...y rhai hynny sy'n dymuno cael eu trwydded ar
gyfer cynnal profion MOT
...rhai sy'n gweithio yn y diwydiant modurol
Cynnwys y cwrs
Mae’r dyfarniad Lefel 2 mewn profi MOT (Dosbarthiadau 4 a 7) yn gwrs ar gyfer unigolion sy’n awyddus i ddod yn brofwyr MOT.
Bydd y cwrs yn mynd i’r afael ag agweddau ar rôl y profwyr, ac yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i ddod yn brofwr MOT llwyddiannus.
Os ydych yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, rhan olaf y broses fydd prawf arddangos mewn canolfan brofi MOT.
Gofynion Mynediad
- meddu ar drwydded yrru gyfredol a llawn y DU ar gyfer y dosbarthiadau cerbydau rydych chi am eu profi
- bod yn fecanydd medrus gydag o leiaf 4 blynedd o brofiad mewn cyflogaeth lawn amser yn gwasanaethu ac yn atgyweirio’r mathau o gerbydau y byddwch yn eu profi
- heb unrhyw gollfarnau am droseddau
- bod ag ‘enw da’ - bydd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau yn sicrhau eich bod yn gymwys i fod yn brofwr MOT
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NCAW0455DC
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr