BTEC Diploma Cyntaf mewn Busnes Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Gofynion mynediad:
- lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
- NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg gradd D.
Yn gryno
Drwy'r cwrs hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth allweddol o fewn y sector busnes, ynghyd â sgiliau sy'n gysylltiedig â gwaith ymarferol. Byddwch yn ennill sgiliau trosglwyddadwy allweddol y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae'r cwrs hwn yn gyfwerth â phedwar cymhwyster TGAU ar Radd A-C.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am y byd busnes
... Ydych eisiau dysgu sgiliau newydd ac annog eraill
... Hoffech fynd ymlaen i gyflogaeth neu Fusnes Lefel 3.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Wrth astudio'r cwrs ysbrydoledig hwn, byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau rydych eu hangen yn y diwydiant hwn i ennill cyflogaeth gyda chyflogwyr lleol neu ddatblygu eich addysg ymhellach.
Byddwch yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o bynciau ac yn edrych ar faterion a thueddiadau presennol o fewn yr amgylchedd busnes i ennill yr wybodaeth fwyaf diweddar. Byddwch yn astudio cyllid, gwasanaeth cwsmer, marchnata a chynllunio ar gyfer busnesau bach, ynghyd â phrofiad gwaith. Ymhlith y modiwlau mae:
- Menter yn y byd busnes
- Cyllid ar gyfer Busnes
- Egwyddorion Marchnata
- Busnes Ar-lein
- Cynllunio ar gyfer Busnesau Bach
- Gwerthu a Gwerthu Personol
- Darparu a Gwella Gwasanaeth Cwsmer
- Rheoli Prosiectau
Byddwch yn cael eich asesu mewn ffyrdd gwahanol, o weithgareddau ymarferol, asesu cyfoedion, lleoliad gwaith, aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle go iawn, a dau arholiad mewn marchnata a chyllid.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc â'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn rhannu syniadau a gwybodaeth wrth i chi weithio'n annibynnol ac o fewn prosiectau grwp.
Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy waith cwrs, a fydd yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig ac ymarferol, trafodaethau grwp, dadleuon, mynychu lleoliad gwaith, sgiliau cyflwyno, gweithio gydag eraill, yn ogystal ag arholiadau. Mae disgwyl i chi barhau gyda'ch astudiaethau a gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Pa gymwysterau fyddwch yn eu hennill:
- Diploma Lefel 2 mewn Busnes
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu dilyn Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes neu raglen Lefel 3 berthnasol arall.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd disgwyl i chi wneud cyfraniad bychan tuag at deithiau a gweithgareddau menter.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
PFBD0066AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr