BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Cerddoriaeth Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Lleiafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol.
Yn gryno
Mae'r cwrs 2 flynedd hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n frwd dros Gerddoriaeth ac sydd â diddordeb i gael gyrfa yn y Diwydiant Cerdd a Chelfyddydau Perfformio.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rydych yn angerddol dros gerddoriaeth.
... Mae gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y byd cerdd neu mewn rôl celfyddydau perfformio.
... Rydych yn frwdfrydig ynghylch bod yn greadigol!
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r meysydd astudio yn cynnwys:
- Technegau cynhyrchu cerddoriaeth
- Sesiwn Gweithdy Wythnosol
- Y Diwydiant Cerddoriaeth
- Theori Cerddoriaeth
- Gosod mewn dilyniant
- Hanes cerddoriaeth boblogaidd
- Technegau Stiwdio Recordio
Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy gydol y flwyddyn, yn bennaf drwy aseiniadau ymarferol, a byddwch yn ymarfer, cynllunio a pherfformio mewn 3 phrif ddigwyddiad cerddoriaeth yn ystod y flwyddyn. Bydd eich sgiliau fel cerddor ac fel aelod o dîm yn cael eu datblygu a'u herio.
Bydd gennych fynediad at theatr gyda chyfleusterau sain a goleuo ardderchog a fydd yn cael eu defnyddio yn ystod eich sesiynau gweithdy a nosweithiau cerddoriaeth. Byddwch yn defnyddio ein setiau Mac gan redeg Logic X ar gyfer gwaith dilyniant a'n stiwdios recordio sydd newydd eu hadnewyddu ar gyfer y recordiad demo hollbwysig yna.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr.
Mae'n rhaid i chi fod yn gallu chwarae offeryn cerdd a byddai o fudd i gerddorion llais fod yn gallu chwarae, neu ddechrau chwarae offeryn.
Pa gymwysterau fyddwch chi'n eu cyflawni:
- BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol Lefel 3 (blwyddyn 1) Diploma Estynedig Sylfaen Cenedlaethol L3 (blwyddyn 2)
- Bagloriaeth Cymru Uwch
- Os na wnaethoch lwyddo i sicrhau gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Saesneg, yna byddwch angen ailsefyll.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau’r Diploma Sylfaen Blwyddyn 1 yn llwyddiannus caniatáu i chi fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn.
O'r fan honno, mae llwybrau symud ymlaen yn cynnwys mynediad i Addysg Uwch neu'r cymhwyster newydd BA Cynhyrchu Sain a Chyfansoddi Caneuon 2 blynedd (Ar gael ar Gampws Crosskeys).
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel rhan o'r gofynion mynediad, bydd disgwyl i chi fynychu sesiwn flasu lle byddwch yn cymryd rhan mewn gwrandawiad.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBE0006AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr