UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae'r cwrs 2 flynedd newydd ac arloesol hwn yn eich helpu i ddysgu beth sy'n eich diddori chi fwyaf ym maes celf a dylunio a datblygu rhai o'r sgiliau sylfaenol sy'n sail i'r disgyblaethau creadigol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... ydych yn greadigol
... ydych eisiau datblygu sgiliau ymarferol
... ydych eisiau cwrs sy'n adlewyrchu profiad o'r diwydiant
Beth fyddaf yn ei wneud?
Rydym yn gyffrous i fod yn ganolfan gymeradwy ar gyfer corff dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL). Bydd y cwrs hwn yn eich annog a'ch ymestyn i gyfathrebu'n weledol, meddwl yn gysyniadol a datblygu technegau datrys problemau ac ymarferol.
Gyda mynediad at weithdai a stiwdios dylunio gyda'r holl gyfleusterau proffesiynol, byddwch yn dysgu drwy arbrofi gan ddefnyddio ystod eang o brosesau 2D, 3D a digidol. Bydd y prosiect yn eich helpu i ennill dealltwriaeth gyd-destunol o gelf a dylunio a'ch cefnogi i wneud a mynegi eich taith bersonol a dehongliadau. Drwy gydol eich taith byddwch yn cael eich addysgu a'ch cefnogi gan diwtoriaid gyda sgiliau, gwybodaeth a phrofiad helaeth o ymarfer diwydiannol ac addysg o fewn y celfyddydau creadigol. Drwy gydol y flwyddyn, byddwch yn cael eich annog i ddatblygu cysylltiadau a diddordebau personol. Yn ystod tymor 3, byddwch yn negodi prosiect a gychwynnwyd gennych chi, gan eich galluogi i adnabod maes diddordeb mwy arbenigol, megis ffasiwn a thecstilau, celf gain, dylunio 3D, Gwneud Printiau, Cerameg, Lluniadu Digidol neu Ffotograffiaeth.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs a, phan fyddwch wedi ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Celf a Dylunio Lefel 3
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn lledu eich sgiliau
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C neu uwch mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, gallu i gymell eich hun, gallu creadigol a dyhead i lwyddo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Wedi i chi gwblhau'r diploma un flwyddyn, byddwch yn cael y cyfle i symud ymlaen i'r ail flwyddyn (Estynedig), gallwch ganolbwyntio ar arbenigedd o'ch dewis, yn ogystal â gweithio ar draws y cyfryngau a gweithdai a fydd yn eich galluogi i ddewis eich llwybr gyfra mewn ffordd wybodus.
Dilyniant i Addysg Uwch ar gwblhau blwyddyn dau yn llwyddiannus. Yma yn 鶹ýAV, rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Addysg Uwch ar lefel Gradd a Lefel Baglor yn y Celfyddydau ym meysydd creadigol Darlunio, Artist Dylunydd Gwneuthurwr a Ffotograffiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ein nod yw ei gwneud hi mor hawdd ag sy'n bosibl i sicrhau eich lle ar eich rhaglen ddelfrydol. Rydym yn eich croesawu i'ch nosweithiau agored a sesiynau blasu (gweler y wefan ar gyfer dyddiadau cyfredol), gan eich galluogi i brofi gweithdai creadigol ac ymweld â'n hamgylchedd creadigol gyda'r holl gyfleusterau.
Llwybr Ffotograffiaeth
Yn ogystal â’n darpariaeth Celf a Dylunio, rydym wrth ein boddau’n gallu cynnig llwybr Ffotograffiaeth penodol unwaith yn rhagor. Bydd hyn yn caniatáu dysgwyr sy’n ymddiddori’n frwd mewn ffotograffiaeth y cyfle i ganolbwyntio’n drylwyr ar ddatblygu eu sgiliau camera a stiwdio ymarferol drwy weithdai ac aseiniadau, cynhyrchu syniadau ffotograffig, astudiaethau hanesyddol a damcaniaethol drwy ddarlithoedd a thrafodaethau agored, a gwella hyder a sgiliau cymdeithasol drwy friffiau byw, adborth parhaus ac adolygiad cymheiriaid.
Bydd y llwybr hwn yn cynnwys:
- Y ddau weithdy, traddodiadol a digidol, yn defnyddio ein hoffer camera proffesiynol diweddaraf
- Gweithdai portreadaeth a bywyd llonydd yn ein stiwdio eithriadol bwrpasol
- Gweithdai ar leoliad yn ystod teithiau maes o fewn y dirwedd Gymreig odidog
- Darlithoedd a thrafodaethau academaidd ar ffotograffiaeth fodern a hanesyddol
- Cyfle i drafod materion cyfoes ac ymateb yn ffotograffaidd
- Ymweliadau oriel ac amgueddfeydd, yn ogystal â siaradwyr gwadd a gweithdai
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBE0034AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr