RSL Diploma Atodol i Ymarferwyr Cerddoriaeth Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol.
Yn gryno
Bydd yr Ysgol Roc Lefel 3, ar y cyd â chyfleusterau rhagorol ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, yn cynnig profiad dysgu rhagorol i chi lle gallwch gael y wybodaeth a’r sgiliau penodol sydd eu hangen i gwrdd â gofynion y diwydiant cyffrous yma.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisiau gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth
... Ydych eisiau’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol ar gyfer y diwydiant
... Yw eich bryd ar ddilyn cwrs cysylltiedig mewn prifysgol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r hyblygrwydd a’r ystod o unedau yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau perthnasol. Byddwch yn gallu cael cydnabyddiaeth o’ch cyraeddiadau trwy sgiliau cerddorol ymarferol ar y cyd â’ch astudiaeth seiliedig-ar-theori.
Blwyddyn 1
Diploma Atodol Lefel 3 RSL ar gyfer Ymarferwyr Cerdd
- Perfformiadau cerddorol byw
- Sgiliau ymarfer cerddoriaeth
- Y cerddor sesiwn
- Dilyniant a chynhyrchu cerddoriaeth
- Rheoli digwyddiadau cerddorol
- Iechyd a diogelwch mewn digwyddiadau cerddorol
- Cyfansoddi
Blwyddyn 2
Diploma Estynedig Lefel 3 RSL ar gyfer Ymarferwyr Cerdd
- Recordio sain mewn stiwdio
- Peirianneg sain byw
- Cynllunio ar gyfer gyrfa mewn cerddoriaeth
- Traethawd cerdd estynedig
- Perfformio cerddoriaeth wedi’i recordio
- Hyrwyddo cerddoriaeth
- Datblygiad technoleg recordio cerddoriaeth
Er mwyn datblygu eich sgiliau ymarferol, bydd gennych fynediad i stiwdio gyda chyfarpar digidol o’r radd flaenaf. Fe’ch anogir i gymryd rhan mewn digwyddiadau cerddorol niferus trwy gydol y DU.
Byddwch yn cael eich asesu trwy arholiadau, portffolio, gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol a byddwch yn cyflawni:
- Diploma Atodol Lefel 3 RSL ar gyfer Ymarferwyr Cerdd (Blwyddyn 1)
- Diploma Estynedig Lefel 3 RSL ar gyfer Ymarferwyr Cerdd (Blwyddyn 2)
- Bagloriaeth Cymru
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i hybu eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 gyda Gradd Teilyngdod.
Bydd angen i chi fod â diddordeb brwd mewn cerddoriaeth a’r brwdfrydedd a’r penderfyniad i ddatblygu eich sgiliau ymarferol. Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunanysgogiad. Dylech hefyd feddu ar y brwdfrydedd a’r agwedd bositif y bydd darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun. Disgwylir i chi hefyd fynychu gymaint o ddigwyddiadau â phosibl a rhwydweithio gyda chymaint o bobl ag y gallwch.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gallech symud ymlaen i gwrs yn ymwneud â cherddoriaeth mewn prifysgol neu ddod o hyd i waith mewn meysydd megis sain byw, goleuo, AMP neu Dechnegydd Drymiau neu berfformio ar lefel led-broffesiynol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen gitâr neu gitâr fas eu hunain ar gitaryddion. Bydd angen gwifren gitâr a ffyn drymio ar bob myfyriwr.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFBE0006AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr