NCFE CACHE Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Addysg
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Mae cymorth yn yr ystafell ddosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu i blant gyrraedd eu potensial llawn - os yw gweithio mewn rôl gymorth yn apelio atoch chi, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i chi.
Disgwylir i chi ennill profiad ymarferol drwy weithio mewn rolau sy’n cefnogi dysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ogystal â mewn colegau am o leiaf un diwrnod yr wythnos fel cyflogai neu wirfoddolwr.
Os ydych chi’n astudio’n rhan-amser, mae’n bwysig eich bod chi’n trefnu eich lleoliad gwaith cyn cofrestru. Os ydych chi’n astudio’n amser llawn, byddwn ni’n trefnu eich lleoliadau gwaith ar eich rhan.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…unrhyw un sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn dosbarth.
…unrhyw un sydd eisiau bod yn gynorthwyydd ystafell ddosbarth neu’n gynorthwyydd cymorth dysgu
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs yn cydnabod y gwaith cymorth hanfodol a wneir mewn ysgolion a cholegau; ac fe’i cynlluniwyd yn gymorth i ysgogi cynnydd a throsglwyddo ar draws gweithlu’r plant mewn ysgolion a cholegau.ÌýByddwch yn cwblhau 11 uned drwy gydol y flwyddyn, bydd rhai yn cael eu hasesu yn eich lleoliad ysgol/coleg a'r rhan fwyaf o unedau y byddwch yn eu cynhyrchu aseiniadau ysgrifenedig.
Mae’n datblygu gwybodaeth a fydd yn werthfawr i weithwyr gwirfoddol a gweithwyr sy’n cael eu talu, drwy astudio ystod o unedau sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant mewn ystafell ddosbarth. Caiff bob uned ei hasesu ar wahân drwy nifer o waliau asesu gwahanol
Ar ôl y cwrs hwn gallech symud ymlaen i Ddyfarniad neu Dystysgrif CACHE Lefel 3 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae CACHE yn argymell y dylai fod gennych 5 TGAU gradd c neu gymhwyster cyfatebol er mwyn ymdopi â gofynion y cymhwyster neuÌýgymhwyster galwedigaethol gofal lefel 1.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi gael gwiriad DBS.
Ìý
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFCE0238AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr