Cymorth Cyntaf Sylfaenol ar gyfer Cwn a Chathod
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£20.00
Dyddiad Cychwyn
25 Mawrth 2025
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
20:00
Hyd
18:00 - 20:00
Yn gryno
P'un a ydych chi'n berchen ar gath neu gi neu eisiau gweithio gyda nhw, mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r holl agweddau ar gymorth cyntaf sylfaenol y mae angen i chi eu gwybod.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…perchnogion anifeiliaid anwes
…unrhyw un sy'n berchen ar lety cathod, llety cwn neu sefydliad sy'n ailgartrefu anifeiliaid
…pobl sy'n gwneud unrhyw fath o waith gyda chathod a chwn.
Cynnwys y cwrs
Cwrs dwy awr yw hwn sy'n ymdrin â phob agwedd ar Gymorth Cyntaf sylfaenol ar gyfer cathod a chwn, gan gynnwys paratoi pecyn cymorth cyntaf priodol, gosod rhwymynnau, delio ag esgyrn wedi torri, gwenwyno, CPR brys a chywasgu’r frest ac amrywiaeth o wybodaeth Cymorth Cyntaf angenrheidiol arall.
Disgwylir i chi gymryd rhan mewn senarios ymarfer, ac ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn cael tystysgrif Â鶹´«Ã½AV.
Gofynion Mynediad
Nid oes yna unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, dim ond diddordeb brwd mewn cathod a chwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cost y cwrs hwn yw £20.
Mae’r cwrs yn cael ei ddysgu gan un o'n nyrsys milfeddygol cymwys.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UCCE3121AC
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 25 Mawrth 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr