City & Guilds Diploma mewn Aml-Sgiliau (Gweithrediadau Cynnal a Chadw) Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Lleiafswm o 4 Cymhwyster TGAU Gradd E neu uwch.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio neu’n dymuno gweithio mewn amrywiaeth o rolau sy’n gofyn am wybodaeth am y crefftau adeiladu amrywiol.
Byddwch yn dysgu sgiliau a gwybodaeth adeiladu sylfaenol ac yn ymgymryd ag amrywiol weithgareddau ymarferol ac ar sail gwybodaeth.
Dyma'r cwrs i chi os...
...rydych yn dymuno gweithio yn y diwydiant adeiladu
...rydych yn mwynhau dysgu ymarferol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin ag atgyweiriadau ar raddfa fach mewn crefftau amrywiol yn y sector adeiladu, ar gyfer y crefftau canlynol:
- atgyweirio adeiladau (gwaith brics)
- atgyweiriadau paentio ac addurno
- atgyweiriadau plastro
- atgyweiriadau plymio
- atgyweiriadau saernïaeth
Cynhelir sesiynau ymarferol mewn gweithdai gyda'r holl gyfarpar, a gefnogir gan sesiynau damcaniaethol i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol.
Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw
- Cymwysterau ategol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Saesneg a Mathemateg
- Gweithgareddau Sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 4 TGAU Gradd E neu uwch.
Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mynediad i’r gweithle neu symud ymlaen i astudiaeth Lefel 3.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0359AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr