Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2025
Gofynion Mynediad
Mae gofynion mynediad i gofrestru ar y cwrs hwn yn amrywio. Rhoddir ystyriaeth i oed a phrofiad blaenorol.
Efallai y bydd y gofynion yn cynnwys lleiafswm o 3 TGAU Gradd C neu uwch, (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu gyfwerth) ac o leiaf un o'r canlynol fel arfer:
- 48 o bwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Llwyddo
Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Yn gryno
Byddwch yn astudio'r agweddau proffesiynol o weithio mewn gofal plant, o gyfathrebu â chydweithwyr i ddeddfwriaeth a hawliau plant. Byddwch hefyd yn astudio pob agwedd ar blentyndod, o iechyd a datblygiad plant i addysg a chwarae.
Dyma'r cwrs i chi os...
...ydych eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa
...rydych eisiau ennill cymwysterau ffurfiol ar lefel gradd
...rydych eisiau ehangu eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad mewn astudiaethau plant
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs hwn yn eich darparu â'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd eu hangen arnoch i weithio'n llwyddiannus gyda phlant o bob oed. Byddwch hefyd yn datblygu rhinweddau personol megis hyblygrwydd a chymhelliant, sy'n hynod werthfawr yn y gweithle ac ar gyfer astudiaeth bellach.
Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau a gweithgareddau ymarferol a fydd yn cael eu harsylwi yn eich amgylchedd.
Blwyddyn 1 - Modiwlau Lefel 4
- FC1D005 - Arwain Arfer o fewn Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc (LPwSCYP) - Portffolio
- PE1S047 - Sgiliau Astudio ar gyfer Addysg Uwch
- FC1S018 - Cyflwyniad i Ymchwil gyda Phlant a Phobl Ifanc
- FC1S020 - Cymhwyso Theori i Ddatblygiad Cyfannol Plant a Phobl Ifanc
- FC1S017 - Arweinyddiaeth a Chynhwysiant o fewn Arfer sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn
Blwyddyn 2 - Modiwlau Lefel 5
- FC2D029 - Portffolio Arfer Uwch mewn Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc (APCYPS).
- FC2S013 - Materion Cwricwlwm
- FC2S036 - Iechyd a Lles Plant a Phobl Ifanc
- FC2S037 - Chwarae a Hamdden
- FC2S029 - Diogelu Plant a Phobl Ifanc
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd angen i chi sicrhau 100 awr mewn lleoliad gwaith, fel gwirfoddolwr neu gyflogaeth â thal.
Bydd disgwyl i chi ymrwymo i o leiaf 20 awr o astudiaeth annibynnol ar adegau allweddol o'r flwyddyn.
Byddwch yn mynd i'r coleg am un diwrnod llawn sy'n cychwyn yn y prynhawn bob wythnos.
Rhoddir ystyriaeth hefyd i brofiad yn y diwydiant.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gyda’r sgiliau a’r profiad y byddwch yn eu datblygu ar y cwrs hwn, gallwch weithio mewn ystod o feysydd gofal plant.
Ar ôl cwblhau’r radd sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen yn awtomatig i flwyddyn olaf y BSc (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol De Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gan ddysgwyr ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent y dewis ychwanegol i astudio ar gyfer Diploma Lefel 5 City & Guilds mewn Gweithio gyda Phlant a Phobl, sydd yn ofynnol ar gyfer cydnabod sgiliau'r sector yn y maes hwn.
Rhoddir masnachfraint ar gyfer y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.
Y cod UCAS yw: LX53
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFDG0013AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr