Â鶹´«Ã½AV

En

VTCT Diploma NVQ mewn Therapi Harddwch Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Isafswm o 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol yn y maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys naill ai cymhwyster TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf.

Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer pobl o bob oed sydd â diddordeb mewn therapi harddwch. 

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno'r disgyblaethau a sgiliau sylfaenol yn y sector harddwch.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn therapi harddwch
... Ydych chi am ddysgu sgiliau a thechnegau newydd ar gyfer triniaethau harddwch
... Ydych chi’n gyfeillgar ac yn weithgar

Beth fyddaf yn ei wneud?

Therapi harddwch yn ddiwydiant sy'n tyfu ac sy'n cynnig cyflogaeth sicr ac amrywiol. Mae mwy a mwy o bobl yn ymweld â therapyddion harddwch wrth i driniaethau therapi harddwch esblygu a dod yn boblogaidd. Mae llawer o ddynion nawr yn ymweld â salonau harddwch ar gyfer amrywiaeth o wahanol driniaethau. Mae hyn yn cael ei ystyried fel rhan hanfodol o dwtio dynion ac mae’n cael ei gefnogi gan y nifer cynyddol o gynhyrchion harddwch sydd ar gael i ddynion ar silffoedd yr archfarchnadoedd ac mewn siopau harddwch.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn therapi harddwch ac mae’n addas ar gyfer pob oedran. Argymhellir yn gryf eich bod yn cwblhau'r rhaglen dwy flynedd (Lefel 2 a Lefel 3 mewn Therapi Harddwch) i roi'r cymwysterau angenrheidiol i chi gael eich cyflogi fel Therapydd Harddwch cwbl gymwys.

Byddwch yn dysgu am ymgynghoriadau cleientiaid ac unedau megis:

  • Trin dwylo
  • Trin traed
  • Gofal croen
  • Adwerthu
  • Derbynfa
  • Celf ewinedd
  • Colur
  • Triniaethau llygaid
  • Cwyro
  • Gall unedau ychwanegol gynnwys amrannau parhaol, gwella ewinedd a chuddliw cosmetig.

Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg yn gweithio ar gleientiaid
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Gwaith grwp
  • Lleoliadau gwaith - naill ai bob wythnos neu mewn bloc
  • Ymweliadau a thripiau i gwmnïau cosmetig ac arddangosiadau diwydiant

Yn ychwanegol at eich cwrs, byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan yn y canlynol:

  • Cystadlaethau mewnol yn y coleg
  • Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a Sgiliau’r Byd
  • Gweithgareddau cymunedol
  • Dyddiau ymwybyddiaeth cynnyrch a thriniaethau yn y diwydiant

Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein sy'n cwmpasu’r wybodaeth sylfaenol. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol yn y maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys naill ai cymhwyster TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf.

Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Bydd yn rhaid i chi feddu ar hunan-gymhelliant, bod yn weithiwr caled, cymryd balchder yn eich gwedd, bod yn rhifog a meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar. Disgwylir i chi fynychu lleoliad gwaith fel rhan o’ch rhaglen.

Cynhelir pob dosbarth ar y campws ac efallai y bydd angen i chi fod yn y coleg tan 7.30pm un noswaith yr wythnos.

Beth sy'n digwydd nesaf?

NVQ Diploma Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Therapïau Cyflenwol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod gwisg:

  • Gwisg arbennig
  • Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
  • Dim tyllau’r corff: modrwy briodas yn unig a ganiateir ei gwisgo yn y salon

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £86, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Â鶹´«Ã½AV y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.  Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Diploma NVQ mewn Therapi Harddwch Lefel 2?

NFDI0443AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr