鶹ýAV

En

City & Guilds Diploma mewn Goginio Proffesiynol Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 3 TGAU gradd G neu uwch arnoch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Bydd ymgeiswyr heb yr isafswm TGAU yn cael eu hystyried ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Yn gryno

Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych yn mwynhau gweithio dan bwysau
... Rydych eisiau gweithio mewn amgylchedd prysur a heriol
... Rydych eisiau dechrau gyrfa fel pen-cogydd

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn ddewis gyrfa heriol, ond hynod gwerth chweil, sy'n tyfu'n gyflym.

Mae ein tiwtoriaid i gyd yn gymwys ac yn brofiadol tu hwnt yn eu maes, a byddant yn cynnig y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi er mwyn datblygu i'r cwrs Coginio Proffesiynol Lefel 2.

Mae'r pynciau y byddwch yn mynd i'r afael â nhw ar y cwrs yn cynnwys:

  • Diogelwch Bwyd
  • Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Iechyd a Diogelwch
  • Bwyd iachach a dietau arbennig
  • Cyflwyniad i offer y gegin
  • Berwi, potsio a stemio
  • Pobi, rhostio a grilio
  • Ffrio dwfn a ffrio bas
  • Adfywio bwyd parod
  • Paratoi bwyd oer
  • Crefft coginio proffesiynol
  • Gwasanaeth bwyty - gwasanaethbwyd, diod a bar
  • Sgiliau barista coffi

Mae’r Dystysgrif Gwasanaeth Bwyd a Diod Cyffredinol Lefel 1 yn gymhwyster ychwanegol. Byddwch yn cael profiad o weithio mewn amgylchedd gwaith realistig yng nghegin a bwyty'r campws, sef Morels ar Gampws Crosskeys a Cwtch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent. Byddwch un ai'n coginio neu yn gweini ar gyfer y cyhoedd.

Byddwch yn cael eich asesu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferolac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformiad ac arsylwi
  • Arddangos sgiliau ymarferol

A byddwch yn cyflawni'r cymwysterau canlynol:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 3 TGAU gradd G neu uwch arnoch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Bydd ymgeiswyr heb yr isafswm TGAU yn cael eu hystyried ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Mae’n rhaid i chi ddangos brwdfrydedd dros y diwydiant lletygarwch ac arlwyo. Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn weithgar ac yn rhifog, a bod â phersonoliaeth gyfeillgar. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn un o’r ofynion mwyaf pwysig y cwrs hwn a bydd gofyn i chi hefyd fynychu lleoliad gwaith wythnosol neu waith bloc.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a/neu Lefel 2 mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod (yng Nghampws Crosskeys) NVQs yn y gweithle mewn meysydd sy'n ymwneud â choginio proffesiynol, gwasanaeth bwyd a diod, gwasanaeth blaen ty, gwasanaeth cwsmer a gwasanaethau cegin.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyn ichi brynu offer llawn, dillad cogydd a gwisg y bwyty a fydd yn costio tua £230.00, a bydd angen £50.00 ar gyfer manion.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Goginio Proffesiynol Lefel 1?

CFDI0057AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr