City & Guilds Diploma mewn Goginio Proffesiynol Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu’n uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; A Diploma Lefel 1 priodol mewn Coginio Proffesiynol neu brofiad o weithio mewn cegin broffesiynol i gynnwys naill ai gradd TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.
Yn gryno
Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rydych eisiau gwella eich gwybodaeth am goginio proffesiynol
... Rydych eisiau gweithio mewn amgylchedd prysur a heriol
... Rydych eisiau dechrau gyrfa fel pen-cogydd
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn ddewis gyrfa heriol, ond hynod gwerth chweil, sy'n tyfu'n gyflym.
Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol. Mae ein tiwtoriaid i gyd yn gymwys ac yn brofiadol tu hwnt yn eu maes, a byddant yn cynnig y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi er mwyn datblygu i'r cwrs Coginio Proffesiynol Lefel 3.
Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os ydych eisiau gweithio fel pen-cogydd proffesiynol. Byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau gwasanaeth bwyty a choginio o safon uchel.
Byddwch yn astudio:
- Iechyd a Diogelwch
- Technegau coginio modern
- Stociau, cawliau a sawsiau
- Ffrwythau a llysiau
- Cigoedd ac offal
- Dofednod
- Pysgod a physgod cregyn
- Reis, pasta, grawn a phrydau wyau
- Melysfwyd a phwdinau poeth ac oer a chynnyrch wedi eu pobi
- Gwasanaeth bwyty - gwasanaeth bwyd, diod a bar, gan gynnwys sgiliau flambé a gwneud coctels
- Sgilau barista coffi
Byddwch yn dysgu drwy:
- Sesiynau 'byw' ym mwyty a chegin y coleg, yn paratoi, coginio a gweini ar gyfer y cyhoedd
- Sesiynau ymarferol i feithrin sgiliau ar gyfer y gegin a'r bwyty
- Gwaith theori mewn ardal ystafell astudio
Mae Campws Crosskeys hefyd yn cynnig Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol fel cymhwyster ychwanegol a byddwch hefyd yn cael profiad o weithio mewn amgylchedd gwaith realistig yng nghegin a bwyty'r campws, lle byddwch un ai'n coginio neu yn gweini ar gyfer y cyhoedd.
Bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar eich sgiliau gwasanaeth bwyty a choginio o Lefel 1 ac yn rhoi'r cyfle ichi gymryd rhan mewn llu o weithgareddau, gan gynnwys:
- Cystadlaethau gwasanaeth bwyty a chelfyddydau coginio - Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a Sgiliau'r Byd
- Cystadlaethau coginio mewnol
- Cystadlaethau coginio cenedlaethol eraill
- Ymweld â chynhyrchwyr bwyd lleol
- Teithiau i sioeau bwyd
Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, portffolios, cyflwyniadau ac arddangosiadau, a byddwch yn ennill:
- Coginio Proffesiynol Lefel 2
- Rhaglen Sgiliau Cyfoethogi Creadigol
- Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol Lefel 1
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu’n uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys gradd TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Mae cymhwyster Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol a/neu brofiad o weithio mewn cegin broffesiynol yn rhagofyniad ar gyfer y cwrs hwn.
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn frwdfrydig, yn weithgar ac yn gallu gweithio mewn tîm. Bydd gennych bersonoliaeth gyfeillgar a bydd gofyn i chi fynychu lleoliad gwaith bob wythnos.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch neu Brentisiaeth, neu gyflogaeth fel pen-cogydd yn y diwydiant arlwyaeth a lletygarwch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyn ichi brynu offer llawn, gwisg cogydd a gwisg y bwyty a fydd yn costio tua £230.00, a bydd angen £50.00 ar gyfer manion.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0127AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr