City & Guilds Dilyniant mewn Gwaith Saer Safle Lefel 2
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 2 mewn Saernïaeth a Gwaith Coed a TGAU gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Byddwch yn dysgu a datblygu sgiliau i symud ymlaen i gyflogaeth mewn gwaith coed.
Dyma'r cwrs i chi os...
...hoffech gael gyrfa fel saer
...hoffech gael gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol mewn saer a gwaith bric
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Coed ar Safle yn eich galluogi i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn Gwaith Coed ar Safle.
Mae’n cwmpasu’r sgiliau canlynol:
- Llorio a thoi cychwynnol
- Fframiau cychwynnol
- Gwaith gosod gorffennu
- Cynnal a chadw gwaith coed
- Defnyddio llif cylchol
Cewch eich asesu drwy brosiectau ymarferol a phrofion ysgrifenedig ac ar-lein. Ar ôl ei gwblhau, bydd gennych:
- Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Coed ar Safle
- Cymwysterau priodol cefnogol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cofrestru ar y cwrs, bydd angen Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Coed a Saernïaeth arnoch a naill ai TGAU Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf mewn Gradd C neu uwch.
Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Prentisiaeth neu gyflogaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi brynu Cyfarpar Diogelu Personol sy’n costio tua £40.00, yn ogystal â’ch deunydd ysgrifennu eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0371AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr