IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beiciau Modur Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cipolwg manwl a deinamig ar fyd cynnal a chadw ac atgyweirio beiciau modur. Bydd angen i chi fod â diddordeb brwd mewn beiciau modur a bod yn dda am ddatrys problemau. Bydd angen awydd arnoch i weithio yn y diwydiant cerbydau modur neu i gynnal eich beiciau eich hun a gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn beiciau modur
... Rydych yn gallu datrys problemau’n dda ac yn gweithio'n galed
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs hwn yn cael ei arnodi fel tystysgrif dechnegol ac mae wedi cael ei ddylunio i fodloni elfen ddamcaniaethol yr VCQ 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beiciau Modur. Mae hefyd yn bodloni gofynion y fframwaith Brentisiaeth.
Mae 11 modiwl i’w cwblhau, sy’n cynnwys yr holl fodiwlau Lefel 1 ac unedau mwy manwl. Mae o leiaf hanner y cwrs yn cynnwys gwaith ymarferol ar feiciau modur.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs, profion ysgrifenedig a thasgau ymarferol, ac ar ôl ei gwblhau byddwch wedi cyflawni: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 2
Gofynion Mynediad
I astudio ar y cwrs hwn, bydd angen cymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, gradd C, cymhwyster Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau neu brofiad cyfatebol mewn cynnal a chadw beiciau modur ar lefel sylfaenol.
Bydd dysgwyr aeddfed yn cael eu hystyried yn unigol ar sail sgiliau a phrofiad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu mynd yn eich blaen i gwblhau Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth ac Atgyweirio Beiciau Modur.
Byddwch angen prynu Offer Diogelu Personol, megis esgidiau ac oferôls, sy'n costio oddeutu £40.00. Byddwch hefyd angen eich offer ysgrifennu a ffolderi eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0302AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr