EAL Dilyniant mewn Gosod Trydanol (Adeiladau a Strwythurau) Lefel 2
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi gael Diploma Lefel 2 (Sylfaen) mewn Trydaneg ac un ai TGAU Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Radd C Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu uwch
Yn gryno
Mae'r cwrs Dilyniant mewn Trydanol yn rhoi cipolwg eang ond manwl i chi ar waith a sgiliau trydanwr. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel Trydanwr yn y diwydiant adeiladu.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb mewn prentisiaeth neu yrfa fel gosodwr trydanol
... Rydych chi eisoes wedi cyflawni Diploma Lefel 2 (Sylfaen) trydanol
... Hoffech gael gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs Dilyniant mewn Astudiaethau Trydanol yn cynnig cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth i safon uchel a gydnabyddir gan y diwydiant.
Byddwch yn dysgu sut i osod a phrofi ystod o gylchedau trydanol yn ein gweithdai llawn offer.
Byddwch yn ymdrin ag ystod o unedau yn ystod y cwrs, gan gynnwys:
- Perfformio Gosodiadau Trydanol
- Deall Sut i Gosod Amgaeadau ar gyfer Ceblau Trydanol, Dargludyddion a Systemau Gwifrau
- Deall Sut i Osod a Chysylltu Ceblau Trydanol, Dargludyddion, Systemau Gwifrau ac Offer
- Deall Sut i Arolygu a Phrofi Cylchedau Trydanol Dad-ynni
- Deall Gwyddor Trydanol Canolradd ac Egwyddorion
Cyflwynir y cwrs gan sesiynau ymarferol mewn cyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i danategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.
Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig ac ar-lein ac, ar ôl eu cwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Diploma Lefel 2 Astudiaethau Trydanol
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi gael Diploma Lefel 2 (Sylfaen) mewn Trydaneg
ac
un ai TGAU Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Radd C Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu uwch
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae dysgwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn symud ymlaen i Brentisiaeth neu Gyflogaeth mewn Gosodiadau Trydanol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi brynu Cyfarpar Diogelu Personol sy’n costio tua £40.00, yn ogystal â’ch deunydd ysgrifennu eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFDI0365AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr