Â鶹´«Ã½AV

En

City & Guilds Diploma mewn Gweinyddu Busnes Lefel 3

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Iechyd a Diogelwch

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn rôl gweinyddu busnes.Ìý

Yn gryno

Amcan y cymhwyster yw cefnogi rôl gweinyddwr busnes yn y gweithle, gan roi cyfle i'r dysgwyr ddysgu a darparutystiolaetho’u gwybodaeth a'u sgiliau.Ìý

Ìý

Ìý

Dyma'r cwrs i chi os...

Mae'r cymhwyster yn addas i unrhyw un sy'n ymwneud ag unrhyw rôl sy'n canolbwyntio ar weinyddiaeth mewn unrhyw ddiwydiant. Ei nod yw datblygu set hynod drosglwyddadwy o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i ddysgwyr ar draws ystod o arferion a thasgau gweinyddol, y gellir eu cymhwyso i bob diwydiant.Ìý

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae hyn yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau gweinyddu busnes gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.ÌýÌý

Rhaid i'r dysgwr gyflwyno tystiolaeth (wedi'i chofnodi mewn portffolio) sy'n dangos yn glir eu bod wedi bodloni meini prawf asesu a deilliannau dysgu'r unedau a ddewiswyd.ÌýÌý

Rhaid i'r dysgwr gyflawni'r unedau gorfodol a dewisol sy'n berthnasol i'w llwybr a'i rôl alwedigaethol.Ìý

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn yn y gweithle ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir arÌýddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda chi a'ch cyflogwr.ÌýÌý

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys tua 12 uned yn dibynnu ar opsiynau a ddewiswyd. Gall gymryd rhwng 12 a 14 mis i'w gwblhau. Gall dysgwyr ei gwblhau yn ôl eu pwysau eu hunain ond bydd ein tîm o aseswyr yn rhoi cynllun cychwynnol ar waith i gwblhau uned bob mis ac mae’nÌýbosib ei gwblhau'n gynt.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Gweinyddu Busnes Lefel 3?

BCEM0028AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.