Â鶹´«Ã½AV

En

CITB Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS)

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Iechyd a Diogelwch

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Os ydych chi'n gyfrifol am iechyd a diogelwch pawb sydd ar y safle, gallai'r cwrs hwn fod yn hynod werthfawr. Mae'n rhoi arweiniad i chi ar sicrhau bod yr holl weithrediadau yn cael eu rhoi ar waith yn unol â deddfwriaeth gyfredol, ac mae'n edrych ar atebolrwydd ar gyfer iechyd, diogelwch a lles gweithwyr sy'n gweithio ar y safle.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...rhai sydd eisiau sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y ddeddfwriaeth bresennol ac arferion gweithio diogel o fewn y diwydiannau amgylchedd adeiledig ac adeiladwaith

...unrhyw un sydd wedi ymgymryd â chyfrifoldebau goruchwylio, neu a fydd yn gwneud hynny

...datblygu dealltwriaeth o'ch cyfrifoldebau cyfreithiol sy'n berthnasol i weithgareddau eich gwaith

...rhai sydd yn awyddus i symud ymlaen o'r Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwyliwr Safle (SSSTS)

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs 5 diwrnod hwn yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  • Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu 2015
  • Gosodiad y safle
  • Asesiadau risg a datganiadau dull
  • Gweithio o Uchder
  • Sgaffaldwaith
  • Trydan
  • Gwaith cloddio
  • Dymchwel
  • Gweithio mewn llefydd cyfyng
  • Newidiadau diweddar mewn arferion gwaith derbyniol

Byddwch yn cael eich asesu ar eich cyfranogiad drwy gydol y cwrs, gan gynnwys tasgau grŵp ac arholiad 25 cwestiwn gyda chwestiynau aml-ddewis ac atebion ysgrifenedig byr.

Mae mynychu'r 5 diwrnod yn llawn yn orfodol.

Wedi i chi ei gwblhau'n llwyddiannus byddwch yn derbyn tystysgrif sy'n ddilys am 5 blynedd.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, fodd bynnag, dylai mynychwyr fod yn dal, neu bod ar fin dal rôl rheolwr safle. Byddai gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch blaenorol yn fanteisiol.

Argymhellir y dylai'r rhai sydd heb fod â phrofiad mewn iechyd a diogelwch gwblhau'r Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwylio Safle (SSSTS) cyn ymgymryd â'r cwrs Rheoli.

Mae'n rhaid i fynychwyr fod yn rhugl o ran Saesneg ysgrifenedig ac ar lafar ar gyfer gweithredu'n effeithlon ar lefel rheoli safle.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cwrs sylfaenol y cwrs hwn yw £650.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd). ... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, sy’n gweithio, ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn ac sy'n dymuno gwneud cais am y cwrs hwn fel rhan o'r fenter PLA, os gwelwch yn dda ymweld a'n wefan PLA. 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CITB Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS) ?

BCEM0045AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.