CITB Diogelwch Safle ac Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch
Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Iechyd a Diogelwch
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae yna nifer o beryglon posib o weithio ar safle, ac mae'r cwrs hwn yn darparu cyngor ymarferol ar gadw eich hun a'ch cydweithwyr yn ddiogel. Mae'n cynnwys eich cyfrifoldebau unigol chi a rhai eich cyflogwr, gan gynnwys beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n credu bod iechyd a diogelwch rhywun mewn peryg.
Mae'r cwrs yn sylfaen delfrydol ar gyfer rhai sy'n dymuno sicrhau cerdyn safle'r diwydiant.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sy'n gweithio o fewn y diwydiant adeiladwaith a pheirianneg sifil
...eich darparu gyda'r dystiolaeth rydych chi ei hangen er mwyn gwneud cais am gerdyn Gweithiwr CSCS, ynghyd â'r Prawf Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd CITB
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnal dros 1 diwrnod a'i fwriad yw rhoi dealltwriaeth i chi o:
- yr angen i osgoi damweiniau
- cyfraith iechyd a diogelwch
- sut mae eich rôl yn rhan o waith rheoli a rheolaeth y safle
- asesiadau risg a datganiadau dull
- perfformio'n ddiogel a gofyn am gyngor
- sut i adrodd am weithredoedd sydd ddim yn ddiogel er mwyn osgoi damwain
Byddwch yn cael eich asesu ar eich cyfranogiad drwy gydol y cwrs, gan gynnwys tasgau grŵp ac arholiad 25 cwestiwn.
Mae presenoldeb llawn yn orfodol.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys mewn Saesneg ar lefel weithredol.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0047AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.