Â鶹´«Ã½AV

En

ABBE Diploma mewn Cydlynu Ôl-osod a Rheoli Risg Lefel 5

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
5

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu i gyd-fynd â'u ffordd bresennol o fyw.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd eisoes wedi cymhwyso mewn rheoli prosiect safle/adeilad i ennill cymhwyster mewn cydgysylltu prosiectau a rheoli risg prosiectau ol-osod domestig, yn ogystal â darparu llwybr i’r rhai sydd eisoes yn gweithio ym maes ôl-osod ond heb gymwysterau priodol.

Bydd y cymhwyster yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau penodol i ddysgwyr allu cyflwyno prosiectau ôl-osod domestig i’r safonau a nodir yn PAS2035. Mae rôl y Cydlynydd Ôl-osod yn orfodol ar gyfer pob prosiect a wneir ar y cyd a PAS2035 a gefnogir yn llawn gan Lywodraeth Cymru a TrustMark.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19 oed a hŷn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

... unigolion sydd ynghlwm â’r sector adeiladu domestig, yn enwedig y rhai hynny sydd eisoes ynghlwm â phrosiectau datgarboneiddio/effeithlonrwydd ynni, neu sy’n awyddus i fod ynghlwm â phrosiectau o'r fath

... unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu, ac sy’n arbenigo mewn ôl-osod

Cynnwys y cwrs

Mae’r cymhwyster Lefel 5 hwn wedi’i ddylunio i ymdrin â chydgysylltu prosiect o un pen i’r llall, o ddechrau prosiect ôl-osod hyd at drosglwyddo a gwerthuso parhaus, gan gynnwys:

  • Asesu Anheddau ar gyfer Ôl-osod
  • Ffiseg Adeiladu - Rheoli Risg
  • Gwerthusiad Opsiwn Gwella a Chynlluniau Ôl-osod Tymor Canolig
  • Gwella Aerglosrwydd ac Awyru
  • Gwella Ffabrig yr Adeilad - Waliau a Ffenestri
  • Gwella'r Gwasanaethau Adeiladu - Gwresogi, Dŵr Poeth, Goleuadau a Phŵer
  • Gwella’r Gwasanaethau Adeiladu - Systemau Ynni Adnewyddadwy
  • Cyflwyniad i Ôl-osod Dan PAS2035
  • Profi, Monitro a Gwerthuso Ôl-osod
  • Sicrhau Ansawdd a Rheoli Risg Ôl-osod
  • Deall y Gofynion ar gyfer Cyflwyno Mesurau i TrustMark

Asesir y cymhwyster drwy gyfuniad o brawf gwybodaeth gorfodol diwedd cymhwyster, trafodaeth(au) proffesiynol ac astudiaeth achos senario wedi’i gosod yn allanol ac wedi’i marcio’n fewnol.

Mae cyflawni’r cymhwyster hwn yn cadarnhau bod y dysgwr wedi ennill y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth fel Cydlynydd Ôl-osod ar gyfer prosiectau ôl-osod domestig a ddarperir o dan PAS 2035.

Gofynion Mynediad

Cewch eich asesu yn seiliedig ar eich gwybodaeth gyfredol, a gellir gofyn unrhyw gwestiynau a chynnal trafodaeth broffesiynol yn ystod eich amser eich hun. Er mwyn ymgymryd â'r NVQ hwn bydd angen i chi feddu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol yn y diwydiant adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.

Mae’n rhaid i ddysgwyr feddu ar gymhwyster Lefel 4 mewn pwnc sy’n ymwneud ag adeiladu fel pensaernïaeth, tirfesur, peirianneg neu reoli safle adeiladu, neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC) ar Lefel 3 neu uwch a bod ag o leiaf 5 mlynedd o brofiad mewn pwnc sy’n ymwneud â rheoli neu oruchwylio prosiectau adeiladu ac adeiladu domestig.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar lefel sylfaenol o lythrennedd, yn gyflogedig a bod mewn sefyllfa lle gellir arsylwi gwaith sy’n mynd rhagddo. Mae’n bosibl y bydd angen sgiliau TG sylfaenol arnoch chi, ond nid yw hynny'n hanfodol

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.

Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa yn y dyfodol
  • ymrwymo i'r amser sydd ei angen

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ABBE Diploma mewn Cydlynu Ôl-osod a Rheoli Risg Lefel 5?

MPLA0019AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.