Â鶹´«Ã½AV

En

ABBE Tystysgrif ABBE mewn Asesu Ynni Domestig Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Ìý

Mae hwn yn gymhwyster proffesiynol ar gyfer y rheini sy'n dymuno dilyn gyrfa fel Asesydd Ynni Domestig (DEA). Unwaith y byddant wedi cymhwyso, bydd Aseswyr Ynni Domestig yn cofrestru gyda Chynllun Achredu sy'n eu hachredu i gynhyrchu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs) ar gyfer cartrefi presennol unigol (nad ydynt wedi'u hadeiladu o'r newydd). Mae hyn yn unol â deddfwriaeth sy'n gweithredu Cyfarwyddeb yr UE ar Berfformiad Ynni Adeiladau.

Mae’r cymwysterau y mae ABBE yn eu cynnig yn addas ar gyfer paratoi i weithio mewn sector, ar gyfer dechrau eich gyrfa a/neu ar gyfer datblygiad proffesiynol. Mae ABBE yn gweithio'n uniongyrchol gyda chanolfannau hyfforddiant a chyflogwyr i ddatblygu cymwysterau pwrpasol er mwyn diwallu anghenion penodol eu dysgwyr a'u gweithwyr.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £32,371 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

Ìý... newydd-ddyfodiaid i'r sector sy'n ceisio dechrau gyrfa ym maes asesu ynni ond hefyd ar gyfer y rheini sydd â phrofiad mewn archwilio eiddo neu dirfesur sy'n dymuno ennill cymhwyster mewn asesu ynni.

Cynnwys y cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i annog cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant mewn meysydd perthnasol eraill drwy:

  • Sefydlu fframwaith o addysg a hyfforddiant ar gyfer Aseswyr Ynni Domestig y dyfodol
  • Galluogi dysgwyr sydd ag arbenigedd mewn meysydd tai eraill i gymhwyso fel Aseswyr Ynni Domestig
  • Galluogi dysgwyr o'r tu allan i'r diwydiant hwn i gymhwyso fel Aseswr Ynni Domestig

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn mae'n rhaid i ddysgwyr gyflawni’r pedair uned gorfodol canlynol:

  • Cynnal asesiadau ynni mewn modd diogel, effeithiol a phroffesiynol
  • Paratoi ar gyfer asesiadau eiddo domestig
  • Ymgymryd ag archwiliadau ynni
  • Cynhyrchu ac egluro Tystysgrifau Perfformiad Ynni sy'n berthnasol i eiddo domestig

Darperir cymwysterau a deunyddiau asesu ABBE drwy gyfrwng y Saesneg.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion cyn-fynediad ar gyfer y cymhwyster hwn.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i unrhyw un sy'n gallu cyrraedd y safonau gofynnol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.

Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhauÌýbod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa yn y dyfodol
  • ymrwymo i'r amser sydd ei angen

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ABBE Tystysgrif ABBE mewn Asesu Ynni Domestig Lefel 3?

MPLA0024AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.