Â鶹´«Ã½AV

En

APMG Rhithwir Ar-lein - Rheoli Prosiectau Hyblyg (AgilePM®) Sylfaen

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Darganfyddwch gysyniadau Agile, dewch  i ddeall egwyddorion uwch a dysgwch sut i reoli prosiectau yn fwy effeithiol ac effeithlon gyda methodolegau rheoli prosiect Agile.

Mae fframwaith rheoli prosiect Agile yn defnyddio dull cynyddrannol o ran y prosesau adeiladu a rheoli, a bydd y cwrs hwn yn eich addysgu am gysyniadau allweddol y fframwaith, a sut i'w rhoi ar waith mewn prosiectau go iawn, gan gynyddu cyfraddau llwyddo.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn.

...unrhyw un sy'n croes-hyfforddi ar gyfer swydd mewn rheoli prosiectau sydd angen cymhwyster i agor opsiynau cyflogaeth newydd.

..unrhyw un sydd eisiau deall eu rôl yn well, gwella eu gwybodaeth ac angen tystiolaeth o'u profiad Agile.

Cynnwys y cwrs

Darperir y cwrs hwn drwy ddosbarth rhithiol. Mae dosbarthiadau rhithiol gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 3 diwrnod

Yn ystod y cwrs, byddwch yn dysgu’r canlynol:

  • Athroniaeth ac egwyddorion sylfaenol Agile
  • Cylch bywyd prosiect Agile, gan gynnwys cyfluniadau amgen
  • Y cynhyrchion a gynhyrchwyd yn ystod prosiect Agile a’u pwrpas
  • Y technegau a ddefnyddir a’u manteision a’u cyfyngiadau
  • Y rolau a’r cyfrifoldebau o fewn prosiect Agile

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion ffurfiol, ond bydd angen i chi fod â diddordeb byw yn y pwnc.

Bydd angen i chi fod â mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffôn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.

Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu'r maes
  • dyheadau gyrfa yn y dyfodol
  • ymrwymo i'r amser sydd ei angen

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • unrhyw brofiad blaenorol gyda methodoleg Agile
  • profiad o weithio ar unrhyw brosiectau oedd yn defnyddio arferion Agile
  • profiad gyda fframweithiau rheoli prosiect eraill neu fethodolegau (e.e. PRINCE2, Scrum, APM)

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio APMG Rhithwir Ar-lein - Rheoli Prosiectau Hyblyg (AgilePM®) Sylfaen?

MPLA0148AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.