Gateway Qualifications Diploma mewn Datblygu Cymwysiadau Gwe
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
5
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Pwrpas y cymhwyster yw uwchsgilio'r rheini sydd eisoes yn gweithio mewn rôl ddatblygu gwefannau a hefyd cynnig llwybr tuag at gyflogaeth i ddysgwyr sydd heb brofiad blaenorol o raglennu.
Dyfernir y cymhwyster i ddysgwyr sy'n llwyddo i gyflawni cyfuniad cymeradwy o unedau drwy bortffolio o dystiolaeth a ddilyswyd a monitrwyd yn llwyddiannus drwy broses Sicrhau Ansawdd Gateway Qualifications.
Felly, pennir cyflawniad drwy gwblhau asesiadau uned yn llwyddiannus heb unrhyw ofyniad pellach o ran asesiadau ychwanegol/crynodol.
Cyflogir 90% o raddedigion o fewn chwe mis o gymhwyso.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw PLA, sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser rhad ac am ddim gyda dull o ddysgu sy’n hyblyg ac yn gyfleus ac sy’n cyd-fynd â'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19+ oed, sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth (llawn amser; rhan-amser; neu hunangyflogedig). Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.
...gallwch ymrwymo 13-15 awr yr wythnos i'r rhaglen astudio hon (hanfodol)
...rydych yn chwilio am ffordd o ennill sgiliau parod am swydd mewn datblygu meddalwedd.
... ydych chi'n chwilio am gymhwyster sydd wedi'i ddatblygu i ateb galw'r diwydiant am y nifer cynyddol o swyddi datblygu meddalwedd a rhaglenni gwe.
... ydych chi'n chwilio am gwrs sy'n gymhwyster gyda ffocws ar yrfa a ddyfernir gan Gateway Qualifications, a gynlluniwyd hefyd mewn ymgynghoriad â chyngor o gwmnïau sy’n cynghori o fewn y sector technoleg.
Cynnwys y cwrs
Mae dysgu’n digwydd ar system rheoli dysgu Code Institute, lle bydd cyfranogwyr yn ennill sgiliau mewn arferion Datblygu Meddalwedd Stack Llawn, gan gwmpasu ystod o ieithoedd, gan gynnwys:
- HTML, CSS, Javascript, Bootstrap
- Python, Django, PostgreSQL
- Fframweithiau, APIs, Llyfrgelloedd
Asesir y cwrs trwy bedwar prosiect, pob un ohonynt yn digwydd ar ddiwedd y pedair uned ddysgu. Mae prosiectau'n cynnwys portffolio o waith y gall dysgwyr ei ddangos i ddarpar gyflogwyr ar ôl cwblhau'r rhaglen.
Bydd dysgwyr hefyd yn ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr trwy dîm gwasanaethau gyrfaoedd Code Institute. Mae hyn yn cynnwys:
- CV ac Ysgrifennu Llythyr Clawr
- Adeiladu Rhwydwaith Proffesiynol
- Sgiliau Cyfweld
Cyflwynir y cwrs ar-lein, gydag amserlen dysgu hyblyg. Fodd bynnag, rhaid ichi allu ymrwymo i ymrwymiad wythnosol cyffredinol o 13-15 awr yr wythnos, am hyd at flwyddyn, er mwyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Ar gyfer ymrestru, disgwylir i'r holl gyfranogwyr gwblhau'r modiwl cyntaf, HTML Essentials, o fewn eu 30 diwrnod cyntaf o ddysgu. Bydd dysgwyr nad ydynt yn cwblhau'r modiwl mewn peryg o gael eu tynnu oddi ar y rhaglen
Gofynion Mynediad
Nid yw'n ofynnol i ddysgwyr feddu ar sgiliau, gwybodaeth neu ddealltwriaeth flaenorol. Fodd bynnag, bydd cymwysterau a phrofiad blaenorol er mwyn sicrhau'r sylfeini sy’n angenrheidiol i ymgymryd â'r rhaglen astudio hon ar lefel 5.
Bydd angen i ddysgwyr gwblhau proses asesu cychwynnol tri cham gyda'n partneriaid, Code Institute, gan gynnwys prawf tueddfryd, datganiad personol a chyfweliad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.
Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa yn y dyfodol
- ymrwymo i'r amser sydd ei angen
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0169AA
Oddi ar y safle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.