Â鶹´«Ã½AV

En

IMI Diagnosis, Profi ac Atgyweirio Cerbydau Trydanol/Hybrid a Chydrannau Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Sector

Sector
Peirianneg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddatblygu mewn cysylltiad agos gydag arbenigwyr yn y diwydiant, gwneuthurwyr cerbydau trydan, darparwyr hyfforddiant, iechyd a diogelwch a'r Cyngor Sgiliau Sector IMI. Dyma'r cymhwyster cyntaf o'i fath i fynd i'r afael â gweithio ar systemau a chydrannau foltedd uchel cerbydau trydan/hybrid byw. Mae'r cymhwyster yn angenrheidiol er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch unigolion sy'n gweithio ar gerbydau trydan/hybrid. Wedi iddynt gwblhau'r cymhwyster bydd technegwyr yn gallu arddangos mewn ffordd ymarferol bod y sgiliau angenrheidiol ganddynt er mwyn atgyweirio systemau a chydrannau foltedd uchel cerbydau.

Bwriedir y cymhwyster hwn ar gyfer technegwyr sy'n cynnal ac yn atgyweirio systemau a chydrannau foltedd uchel cerbydau trydan/hybrid. Mae'n cynnwys yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol er mwyn gweithio ar gydrannau a systemau cysylltiedig cerbydau foltedd uchel byw.

Wedi iddynt gwblhau'r cymhwyster bydd technegwyr yn gallu arddangos mewn ffordd ymarferol bod y sgiliau angenrheidiol ganddynt er mwyn atgyweirio systemau a chydrannau foltedd uchel cerbydau.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, sy’n gweithio, ac yn ennill llai na £31,371 y flwyddyn

... rhai sydd wedi cwblhau eu cymhwyster Dyfarniad IMI Lefel 3 mewn Atgyweirio ac Ail-osod Systemau Cerbydau Hybrid/Trydan

... rhai sy'n dechnegwyr hÅ·n ac yn dechnegwyr a pheirianwyr meistr

Cynnwys y cwrs

Bydd dysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn ennill gwybodaeth greiddiol sylweddol ynghyd â'r sgiliau a'r gallu i dynnu ymaith, cyfnewid ac atgyweirio cydrannau foltedd uchel cerbydau trydan/hybrid.

Mae'r Cymhwyster yn cynnwys un uned EV4 gorfodol, gyda'r gofynion tystiolaeth fel a ganlyn:

  • Paratoi batri foltedd uchel i gael ei dynnu o'r cerbyd.
  • Tynnu ymaith a chyfnewid modiwl batri foltedd uchel o'r batri foltedd uchel
  • Cydbwyso modiwlau batri foltedd uchel
  • Ailosod y batri foltedd uchel yn y cerbyd
  • Cynnal diagnosis a phrofi moduron trydan a rheolwyr pŵer
  • Ymgymryd â gweithdrefnau cau a thanio foltedd

Ymgymryd â gwiriad gweithredu ar y systemau cerbyd foltedd uchel yn dilyn cwblhau'r atgyweiriad yn llwyddiannus

O ganlyniad, bydd dysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn ennill gwybodaeth greiddiol sylweddol ynghyd â'r sgiliau a'r gallu i dynnu ymaith, cyfnewid ac atgyweirio cydrannau foltedd uchel cerbydau trydan/hybrid/

Gofynion Mynediad

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer technegwyr hŷn a thechnegwyr a pheirianwyr meistr. Byddwch angen bod â Dyfarniad IMI Lefel 3 mewn Atgyweirio ac Ail-osod Systemau Cerbydau Hybrid/Trydan.

Gwybodaeth Ychwanegol

Asesiadau ymarferol, asesiadau llafar ac asesiad ysgrifenedig.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio IMI Diagnosis, Profi ac Atgyweirio Cerbydau Trydanol/Hybrid a Chydrannau Lefel 4?

MPLA0173AA
Campws Crosskeys

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.