Â鶹´«Ã½AV

En

ABBE Tystysgrif mewn Asesu Ynni Annomestig Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Ynni Annomestig yn gwrs dwys 3 diwrnod sydd wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau adeiladu, pensaernïaeth, archwilio neu feysydd perthnasol, gyda'r nod o ddod yn aseswyr ynni achrededig ar gyfer adeiladau an-nomestig.

Wedi'i ariannu drwy Â鶹´«Ã½AV a Chyfrif Dysgu Personol Cymru (PLA), mae'r cwrs hwn yn cwmpasu rheoliadau perfformiad ynni, adeiladwaith, systemau HVAC, a hyfforddiant ymarferol er mwyn cynnal arolygon safle a defnyddio meddalwedd asesu ynni.

Mae cwblhau'n llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i gofrestru gyda chyrff achredu, cynnal asesiadau ynni, a dyfarnu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCau), gan wella cyfleoedd gyrfa o fewn ymgynghori amgylcheddol, rheoli eiddo a rolau o fewn y llywodraeth.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19 oed a hŷn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,372 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

...Ydych yn weithiwr proffesiynol o fewn y gwasanaethau adeiladu, pensaernïaeth neu faes perthnasol.

...Eisiau dod yn aseswr ynni annomestig achrededig.

...Oes gennych ddiddordeb i wella effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau masnachol.

...Ydych yn awyddus i wella eich gyrfa gyda chymhwyster mewn asesu ynni.

Cynnwys y cwrs

  • Astudiaeth Theoretaidd: Dysgu am reoliadau perfformiad ynni, adeiladwaith a systemau HVAC.
  • Hyfforddi Ymarferol: Cynnal arolygon safle ar gyfer adeiladau an-nomestig a defnyddio meddalwedd asesu ynni.
  • Aseiniadau a Phrosiectau: Cwblhau gwaith cwrs yn seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn a chynhyrchu adroddiadau effeithlonrwydd ynni manwl.
  • Arholiadau: Darparu a llwytho asesiadau ymarferol er mwyn arddangos eich gwybodaeth a'ch sgiliau.

Gofynion Mynediad

  • Cefndir Addysgol: Yn ddelfrydol, bod â chefndir mewn gwasanaethau adeiladu, pensaernïaeth neu faes perthnasol.
  • Sgiliau Sylfaenol: Bod yn fedrus o ran sgiliau cyfrifiadurol a dealltwriaeth sylfaenol o adeiladwaith a systemau ynni.
  • Profiad Gwaith: Mae profiad blaenorol yn fuddiol ond nid wastad yn hanfodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.

Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa yn y dyfodol
  • ymrwymo i'r amser sydd ei angen

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ABBE Tystysgrif mewn Asesu Ynni Annomestig Lefel 3?

MPLA0175AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.