Â鶹´«Ã½AV

En

NILC Ardystiedig Microsoft: Azure Administrator Associate

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn dysgu gweithwyr TG proffesiynol sut i reoli eu tanysgrifiadau i Azure, sicrhau manylion adnabod, gweinyddu'r seilwaith, ffurfweddu rhwydweithio rhithwir, cysylltu Azure a lleoliadau ar y safle, rheoli traffig y rhwydwaith, gweithredu datrysiadau storio, creu a graddio peiriannau rhithwir, gweithredu apiau a chynwysyddion gwefannau, gwneud copi wrth gefn o ddata a’i rannu, a monitro eich datrysiad.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser rhad ac am ddim gyda dysgu hyblyg a chyfleus sy'n cyd-fynd â'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 mlwydd oed, sydd yn byw yng Nghymru ac sydd yn gyflogedig. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

... Gweinyddwyr Azure. Mae Gweinyddwr Azure yn gweithredu, yn rheoli, ac yn monitro manylion adnabod, llywodraethu, storio, cyfrifiannu, a rhwydweithiau rhithwir mewn amgylchedd y cwmwl. Bydd Gweinyddwr Azure yn darparu, yn mesur, yn monitro ac yn addasu adnoddau fel y bo'n briodol.

... os ydych chi’n meddu ar brofiad o PowerShell, Azure CLI, porth Azure, templedi Azure Resource Manager neu Microsoft Entra ID

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn ar ffurf ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 4 diwrnod

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer:

  • Rheoli Tanysgrifiadau ac Adnoddau Azure.
  • Ffurfweddu a Diogelu Rhwydweithio Rhithwir.
  • Gweini Manylion Adnabod a Mynediad at Azure.
  • Gosod a Rheoli Peiriannau Rhithwir.
  • Gweithredu a Rheoli Cyfrifon Storio.
  • Ffurfweddu a Rheoli Microsoft Entra.
  • Gweithredu a Rheoli Azure Governance.
  • Monitro a Gwneud Copi Wrth Gefn o Adnoddau Resources.
  • Rheoli Azure Applications a Gwasanaethau Apiau.
  • Gweithredu a Rheoli Azure Virtual Networks.
  • Gweithio gyda Thempledi Azure Resource Manager (ARM).

Gofynion Mynediad

Er NAD yw rhagofynion ffurfiol yn orfodol, argymhellir y profiad a'r wybodaeth ganlynol i gynyddu'r tebygolrwydd o lwyddo yn yr arholiad ardystio:

  • O leiaf chwe mis o brofiad ymarferol yn gweini Azure.
  • Dealltwriaeth gref o wasanaethau craidd Azure, a llwythi gwaith, diogelwch a llywodraethu Azure.
  • Hyfedredd wrth ddefnyddio PowerShell, Command Line Interface (CLI), Azure Portal, a thempledi ARM

Bydd angen mynediad at y rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwegamera/meicroffon arnoch chi

Gwybodaeth Ychwanegol

Un nod y rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu haddysg.

Cyn cael eich ymrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu unigol â chi er mwyn sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr dysgu cywir.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu'r maes
  • dyheadau gyrfa
  • dyrannu’r amser a fydd ei angen
  • mynediad at y rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwegamera/meicroffon

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • unrhyw brofiad blaenorol gyda chyfrifiadura ar y cwmwl
  • eich defnydd o unrhyw lwyfannau cwmwl megis AWS, Google Cloud, neu Azure
  • diddordeb mewn ymgymryd â chymwysterau Azure ychwanegol

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio NILC Ardystiedig Microsoft: Azure Administrator Associate?

MPLA0177AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.