Â鶹´«Ã½AV

En

NILC Ardystiedig Microsoft: Hanfodion Azure DA

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno cysyniadau sylfaenol sy'n ymwneud â deallusrwydd artiffisial (Artificial Intelligence - AI), a'r gwasanaethau ym Microsoft Azure y gellir eu defnyddio i greu datrysiadau AI. Ni chynlluniwyd y cwrs hwn i addysgu myfyrwyr i ddod yn wyddonwyr data neu'n ddatblygwyr meddalwedd, ond yn hytrach i fagu ymwybyddiaeth o lwythi gwaith AI cyffredin a'r gallu i nodi’r gwasanaethau Azure i'w cefnogi.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser rhad ac am ddim gyda dysgu hyblyg a chyfleus sy'n cyd-fynd â'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 mlwydd oed, sydd yn byw yng Nghymru ac sydd yn gyflogedig. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

...unrhyw un sydd eisiau dangos gwybodaeth sylfaenol am ddysgu peirianyddol (Machine Learning - ML) a chysyniadau sy’n ymwneud â deallusrwydd artiffisial (AI) a gwasanaethau Microsoft Azure cysylltiedig

... unrhyw un sydd am ddechrau dysgu ar gyfer gyrfa ym maes gweinyddiaeth Azure a datblygu ac fel pensaer datrysiadau.

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn ar ffurf ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 1 diwrnod

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno cysyniadau sylfaenol sy'n ymwneud â deallusrwydd artiffisial (Artificial Intelligence - AI), a'r gwasanaethau ym Microsoft Azure y gellir eu defnyddio i greu datrysiadau AI. Ni chynlluniwyd y cwrs hwn i addysgu myfyrwyr i ddod yn wyddonwyr data neu'n ddatblygwyr meddalwedd, ond yn hytrach i fagu ymwybyddiaeth o lwythi gwaith AI cyffredin a'r gallu i nodi’r gwasanaethau Azure i'w cefnogi.

Mae ymarferion ymarferol y cwrs yn seiliedig ar fodiwlau Learn, ac anogir myfyrwyr i ddefnyddio'r cynnwys ar Learn fel deunyddiau cyfeirio i atgyfnerthu’r hyn a ddysgir yn y dosbarth ac i archwilio pynciau’n ddyfnach.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu:

  • Disgrifio llwythi gwaith ac ystyriaethau Deallusrwydd Artiffisial
  • Disgrifio egwyddorion sylfaenol dysgu peirianyddol ar Azure
  • Disgrifio nodweddion llwythi gwaith golwg cyfrifiadurol ar Azure
  • Disgrifio nodweddion llwythi gwaith Prosesu Iaith Naturiol (Natural Language Processing - NLP) ar Azure
  • Disgrifio nodweddion llwythi gwaith AI ymddiddanol ar Azure

Gofynion Mynediad

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ragofynion ffurfiol. Cynlluniwyd ef ar gyfer unigolion sydd am ddangos gwybodaeth sylfaenol am ddysgu peirianyddol (machine learning - ML) a chysyniadau deallusrwydd artiffisial (AI) a gwasanaethau Microsoft Azure cysylltiedig.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyn cael eich ymrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu unigol â chi er mwyn sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr dysgu cywir.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu'r maes
  • dyheadau gyrfa
  • dyrannu’r amser a fydd ei angen
  • mynediad at y rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwegamera/meicroffon

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs:

  • unrhyw brofiad blaenorol gyda chyfrifiadura ar y cwmwl
  • y defnydd o unrhyw blatfformau cwmwl megis AWS, Google Cloud neu Azure
  • diddordeb mewn dilyn cymwysterau Azure ychwanegol

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio NILC Ardystiedig Microsoft: Hanfodion Azure DA?

MPLA0178AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.