Â鶹´«Ã½AV

En

NILC Ardystiedig Microsoft: Hanfodion Azure

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs undydd hwn yn cyflwyno gwybodaeth sylfaenol ar gysyniadau Azure; gwasanaethau craidd Azure; datrysiadau ac offer rheoli craidd; diogelwch cyffredinol a diogelwch rhwydwaith; nodweddion llywodraethu, preifatrwydd a chydymffurfiaeth; Rheoli costau Azure a chytundebau lefel wasanaeth.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser rhad ac am ddim gyda dysgu hyblyg a chyfleus sy'n cyd-fynd â'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 mlwydd oed, sydd yn byw yng Nghymru ac sydd yn gyflogedig. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

...unigolion sydd eisiau dangos gwybodaeth sylfaenol am wasanaethau yn y cwmwl a sut mae Microsoft Azure yn darparu'r gwasanaethau hynny.

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn ar ffurf ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 1 diwrnod

Mae’r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Modiwl 1: Cysyniadau’r Cwmwl

Modiwl 2: Gwasanaethau Craidd Azure

Modiwl 3: Datrysiadau Craidd

Modiwl 4: Nodweddion diogelwch a rhwydweithio cyffredinol

Modiwl 5: Manylion adnabod, Llywodraethu, Preifatrwydd a Chydymffurfiaeth

Modiwl 6: Prisio a Chylch Bywyd Azure

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Trafod hanfodion cyfrifiadura cwmwl ac Azure, a sut i ddechrau ar danysgrifiadau a chyfrifon Azure.
  • Disgrifio manteision defnyddio gwasanaethau cyfrifiadura cwmwl, dysgu i wahaniaethu rhwng y categorïau a'r mathau o gyfrifiadura cwmwl, a sut i archwilio'r amryw gysyniadau, adnoddau, a therminoleg sy'n angenrheidiol i allu gweithio gan ddefnyddio Azure.
  • Amlinellu’r gwasanaethau craidd sydd ar gael gan Microsoft Azure.
  • Trafod y datrysiadau craidd sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o offer a gwasanaethau Microsoft Azure.
  • Disgrifio’r nodweddion diogelwch cyffredinol a diogelwch rhwydwaitha sut y gellir defnyddio'r amryw wasanaethau Azure i helpu i sicrhau bod eich adnoddau cwmwl yn ddiogel, yn gadarn ac yn ddibynadwy.
  • Trafod nodweddion adnabod, llywodraethu, preifatrwydd a chydymffurfiaeth, a sut y gall Azure eich helpu i sicrhau mynediad at adnoddau yn y cwmwl, goblygiadau adeiladu strategaeth lywodraethu yn y cwmwl a sut mae Azure yn cadw at safonau rheoleiddio a chydymffurfio cyffredin.
  • Trafod y ffactorau sy'n dylanwadu ar gost, yr offer y gellir eu defnyddio i helpu i amcangyfrif a rheoli eich gwariant yn y cwmwl a sut y gall cytundebau lefel wasanaeth (service-level agreements - SLAs) Azure effeithio ar eich penderfyniadau wrth ddylunio apiau.

Gofynion Mynediad

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ragofynion ffurfiol. Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer unigolion sydd eisiau dangos gwybodaeth sylfaenol am wasanaethau cwmwl a sut mae Microsoft Azure yn darparu'r gwasanaethau hynny.

Bydd angen mynediad at y rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwegamera/meicroffon arnoch chi

Gwybodaeth Ychwanegol

Un nod y rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu haddysg.

Cyn cael eich ymrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu unigol â chi er mwyn sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr dysgu cywir.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu'r maes
  • dyheadau gyrfa
  • dyrannu’r amser a fydd ei angen
  • mynediad at y rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwegamera/meicroffon

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs:

  • unrhyw brofiad blaenorol gyda chyfrifiadura cwmwl
  • y defnydd o unrhyw blatfformau cwmwl megis AWS, Google Cloud neu Azure
  • diddordeb mewn dilyn cymwysterau Azure ychwanegol

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio NILC Ardystiedig Microsoft: Hanfodion Azure?

MPLA0180AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.