Ymgysylltu er mwyn Newid - Interniaeth Lefel Mynediad
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Lefel
Entry
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
- 16-24 oed
- Gallu teithio’n annibynnol, gwneud cynlluniau teithio, neu’n barod i ddysgu sgiliau teithio annibynnol
- Unigolyn ag anabledd neu anhawster dysgu, neu awtistiaeth
Awyddus i gael gwaith yn y dyfodol
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn cefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, anableddau neu awtistiaeth. Bydd dysgwyr yn ymgymryd ag interniaeth â chymorth gan weithio tuag at sicrhau cyflogaeth ran-amser neu lawn amser.
Dyma'r cwrs i chi os...
... ydych yn cynllunio ar gyfer sicrhau cyflogaeth
... ydych eisiau datblygu sgiliau cyflogadwyedd
... ydych yn unigolyn ymroddedig sy’n barod i ymgymryd â phrofiad gwaith
... ydych yn barod i deithio i gwblhau eich lleoliad gwaith
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd cymwysterau’n cael eu teilwra ar gyfer anghenion pob intern a’u llwybrau datblygiad arfaethedig.
Mae’r meysydd pwnc yn cynnwys:
- Adeiladu perthnasoedd proffesiynol gyda chydweithwyr yn y gweithle
- Cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad personol eich hun
- Sut i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y gweithle
- Dysgu beth yw’r rheolau a’r rheoliadau ar gyfer y gweithle (Moeseg Gwaith)
- Ymgymryd â gweithgareddau ar gyfer dewis swyddi
- Cwblhau lleoliad gwaith 3 diwrnod o hyd oddi ar y campws
Bydd y rhaglen yn asesu pob dysgwr trwy wahanol asesiadau, gan gynnwys:
- Arsylwi
- Cwestiynu ar lafar
- Tystiolaeth fideo neu ffotograffau
- Asesiad ysgrifenedig
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Disgwylir i ddysgwyr ymrwymo’n llawn i bob agwedd o’r rhaglen. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr.
Rhaid i ddysgwyr allu cynnal a mynychu pob agwedd ar leoliad gwaith.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd gan ddysgwyr y wybodaeth a'r sgiliau i symud ymlaen i gyflogaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd dysgwyr yn mynychu lleoliad gwaith 3 diwrnod yr wythnos oddi ar y campws (Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau) gyda dau ddiwrnod ar y campws (Dydd Llun a Dydd Gwener)
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFSN0061AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr