Â鶹´«Ã½AV

En

Llywodraethiant - Pwy ydym ni

Bwrdd Corfforaethol

Mark Longshaw profile photo

Cadeirydd - Mark Langshaw MBE

Cafodd Mark ei benodi’n Gadeirydd y Gorfforaeth ym mis Awst 2018. Mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr Continental Teves UK Ltd, cyflogwr sylweddol yn ardal Glynebwy, sy’n arbenigwyr ym maes cynhyrchiant cydrannau peirianneg perfformiad uchel ar gyfer y diwydiant modurol.

Mae gan Mark brofiad helaeth ym maes busnes a rheoli ac mae’n darparu mewnwelediad defnyddiol i’r Bwrdd o anghenion hyfforddi’r diwydiannau peirianneg fecanyddol a modurol yn ogystal â’r economi yn ardal Blaenau Gwent. Mae Mark hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Fforwm Modurol Cymru, ac mae’n Gadeirydd Bwrdd Mentergarwch Blaenau Gwent a Bwrdd Cynghori Strategol Cymoedd Technegol. Mae Mark hefyd yn eistedd ar Fwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru ac, yn flaenorol, bu’n aelod o’r Grŵp Cynghori Ewropeaidd yn adrodd i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit.

Sue Ball profile photo

Is Gadeirydd - Sue Ball

Mae Sue yn teimlo’n angerddol am bwysigrwydd addysg, hyfforddiant a chydweithio effeithiol i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau cyflogwyr. Ar ôl gyrfa hir yn y GIG (a oedd yn cynnwys swyddi clinigol ac anghlinigol), ymddeolodd yn ddiweddar o’i swydd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hi’n parhau i ymgymryd â gwaith ymgynghori ar gyfer y Bwrdd Iechyd ac yn cadeirio gwrandawiadau ffit i weithio ar gyfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Anthony Basnett profile photo

Anthony Basnett

Mae gan Baz dros 30 mlynedd o brofiad ym maes peirianneg electronig. Bu’n gwasanaethu am 17 mlynedd yn Lluoedd Ei Fawrhydi, gan ymuno fel Prentis Peirianneg Electroneg a symud ymlaen at reng y Swyddog Gwarant. Baz yw Cyfarwyddwr a Pheiriannydd Datrysiadau ar gyfer cwmni technoleg ddigidol mawr yn dilyn nifer o flynyddoedd fel Pennaeth Systemau Peirianneg yn CISCO UK. Mae hefyd yn eistedd ar Fwrdd y Ganolfan Arddangos Rhwydwaith Pŵer, sy’n rhan o Brifysgol Strathclyde. Mae Baz yn Gadeirydd Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau y Bwrdd.

Moawia Bin Sufyan

Moawia Bin-Sufyan

Mae Moawia yn gweithio ym maes buddsoddiadau a datblygiad eiddo, ochr yn ochr â hynny, mae’n cyflawni nifer o rolau cyhoeddus, elusennol a gwirfoddol. Mae’r rolau hyn yn cynnwys monitro gwasanaethau iechyd a chyflyrau carchardai a charcharorion a chynghori ynglŷn ag amrywiaeth a chynhwysiant. Mae Moawia hefyd yn Ynad Heddwch ac yn Uwch Aelod Annibynnol o’r Panel ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a Sifil yng Nghymru. Mae’n Lifreiwr yng Nghwmni Anrhydeddus yr Addysgwyr ac mae wedi derbyn gwobr Rhyddid Dinas Llundain.

Liz Brimble

Elizabeth Brimble

Enillodd Liz ei chymwysterau yn y gweithle ar ôl gadael yr ysgol yn un ar bymtheg oed, ac mae hi wedi ymrwymo i bwysigrwydd cynnig dewis mewn addysg a hyfforddiant. Gweithiodd ei ffordd i fyny at swyddi rheoli yn y sector gwasanaethau ariannol, ac mae wedi treulio amser fel swyddog sifil gyda Chanolfan Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Mae Liz wedi ymddeol yn ddiweddar fel Cyfarwyddwr Cymwysterau, Cofrestru ac Addasrwydd i Ymarfer yng Nghyngor y Gweithlu Addysg. Mae’n byw yn ardal Casnewydd, ac mae ei phlant wedi astudio yn Â鶹´«Ã½AV.

Andrew Clark

Andrew Clark

Mae Andrew yn cynnig dealltwriaeth fanwl o’r sector addysg bellach yng Nghymru i’r Bwrdd. Gan feddu ar gefndir ym maes cyllid a chyfrifyddu, ymddeolodd yn ddiweddar o yrfa hir gyda Llywodraeth Cymru lle’r oedd ei rolau diweddaraf yn cynnwys arwain ar gyflogadwyedd, gyrfaoedd a pholisi addysg bellach. Mae’n gwasanaethu fel aelod annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Archwilio Cymru. Andrew yw’r Llywodraethwr sy’n gyfrifol am Lywodraethu Gwybodaeth.

Awaiting profile photo

Joshua Davies

Etholwyd Joshua yn Fyfyriwr-lywodraethwr AB ym mis Mai 2024. Mae’n astudio Lefel A mewn Economeg, Busnes a Mathemateg ym Mharth Dysgu Torfaen ac mae’n Gynrychiolydd Dosbarth. Mae wedi mwynhau trefnu ymgyrchoedd a gweithgareddau codi arian ers ymuno â’r coleg ac mae’n awyddus i gyfrannu at wella profiad y dysgwr. Yn ei amser hamdden mae Joshua yn rhedwr brwd sydd yn cystadlu ar lefel genedlaethol.

Delyth Evans

Delyth Evans

Mae Delyth yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf a dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr newyddion a materion cyfoes. Aeth ymlaen i weithio fel ysgrifennwr areithiau gwleidyddol ac, yn hwyrach, gwasanaethodd fel Aelod Cynulliad am dair blynedd. Mae Delyth wedi gweithredu mewn rôl Prif Weithredwr ar gyfer dwy elusen ac fel ymgynghorydd polisi a strategaeth. Mae hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Chwaraeon Cymru, yr Urdd a’r Sefydliad Alacrity, sef elusen addysg sy’n darparu hyfforddiant entrepreneuriaeth ar gyfer graddedigion mewn technoleg.

Chris Freegard

Chris Freegard OBE

Ymunodd Chris â Bwrdd Â鶹´«Ã½AV yn 2010 gan wasanaethu am ddau dymor. Yn dilyn newid mewn amgylchiadau, ail-ymunodd â’r Bwrdd yn 2020. Ymddeolodd o’i swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Dinas Casnewydd yn 2009 ac mae wedi dal nifer o rolau ar Fyrddau ers hynny, gan gynnwys gwasanaethau fel Ymddiriedolwr Kaleidoscope, elusen camddefnyddio sylweddau a gwasanaethu fel Llywodraethwr Prifysgol De Cymru tan fis Gorffennaf 2020.

Bailjit Gill

Bailjit Gill

Bal yw’r Uwch-reolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae wedi gweithio ym maes cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol ers dros 23 o flynyddoedd, gan gynnwys rolau yn Llywodraeth Cymru, Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Mae’n byw yng Nghasnewydd ac, yn flaenorol, bu’n Llywodraethwr Ysgol ac yn Ymddiriedolwr o raglen Pobl yn Gyntaf Torfaen. Yn ddiweddar, mae Bal wedi dechrau fel Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Amrywiaeth a Chynhwysiant.

John Phelps

John Phelps

Cychwynnodd John ei yrfa fel peiriannydd prentis gan weithio yn y diwydiant am nifer o flynyddoedd cyn ail-hyfforddi fel athro. Bu’n gweithio ym maes addysg am dros ddeng mlynedd ar hugain a threuliodd lawer o’r amser hwnnw yn y sector addysg bellach. Roedd yn Is-bennaeth yng Ngholeg y Cymoedd am ddeng mlynedd, gyda chyfrifoldeb dros gwricwlwm a datblygu ansawdd. Ers ymddeol, mae wedi gweithio fel ymgynghorydd a chynghorydd addysgol hunangyflogedig. John yw’r Llywodraethwr sy’n gyfrifol am Iechyd a Diogelwch.

Matt Preece

Matt Preece

Mae Matt yn meddu ar brofiad helaeth yn rheoli manwerthu ar lefel siop a lefel ranbarthol. Bellach, mae’n hunangyflogedig fel ymgynghorydd rheoli a hyfforddwr busnes. Mae’n darparu cymorth o ran cynllunio strategol a gweithredu yn ogystal â chynnig cefnogaeth barhaus a mentora i berchnogion BBaCh yn y rhanbarth.

Awaiting profile photo

Tim Rathbone

Ymunodd Tim â’r Bwrdd ym mis Ebrill 2024. Mae wedi cwblhau cylch llawn ar ôl dechrau ei yrfa fel Prentis Trydanwr yng Nghampws Pont-y-pŵl y coleg yn yr 1980au. Yn Beiriannydd Siartredig, fe ymddeolodd Tim yn ddiweddar o’i rôl fel Uwch-Bartner a Chyfarwyddwr yn Hoare Lea & Co, Peirianwyr Ymgynghorol. Bu’n gweithio i’r cwmni am dros 30 mlynedd ac mae bellach yn awyddus i gyfrannu at lwyddiant Â鶹´«Ã½AV. Hefyd, ymunodd yn ddiweddar â bwrdd Ymddiriedolaeth Natur Gwent ac mae ganddo ddiddordeb garw mewn cynaliadwyedd. Adlewyrchir hyn hefyd yn ei gariad tuag at arddio a’r awyr agored.

Lizzie Swaffield profile photo

Lizzie Swaffield

Lizzie yw Cadeirydd y Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd. Mae hi’n siarad Cymraeg ac yn dod â phrofiad helaeth o’r sector cyhoeddus ehangach i’r Bwrdd, yn benodol, mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth. Ar hyn o bryd mae’n gweithio i elusen addysgol ac, yn flaenorol, mae wedi dal rolau gyda Chymwysterau Cymru, Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant, Rhaglen Addysg Blaenau’r Cymoedd a llywodraeth leol.

Gareth Watts profile photo

Gareth Watts

Ar ôl gwasanaethu fel Aelod Allanol o’r Pwyllgor Archwilio ers nifer o flynyddoedd, ymunodd Gareth â’r Bwrdd fel Llywodraethwr ym mis Hydref 2022. Mae’n weithiwr proffesiynol profiadol ym maes cyfrifyddu ac archwilio yn y sector cyhoeddus domestig a’r sector cyhoeddus rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae Gareth yn Gyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer Bwrdd Iechyd mawr ac yn flaenorol, gweithiodd yn y Senedd, Swyddfa Archwilio Cymru a Bwrdd Archwilio’r Cenhedloedd Unedig. Mae Gareth hefyd yn Llywodraethwr Ysgol ac yn archwilydd anrhydeddus ar gyfer Eglwys yr Undodiaid.

Aelodau Cyfetholedig Allanol

Farishna Chohan-Solanki

Farishna Chohan-Solank

Ymunodd Farishna â ni fel Aelod Allanol o’r Pwyllgor Archwilio ym mis Ebrill 2023. Mae’n Rheolwr Cyllid yn Legal & General ac mae’n gyfrifol am feysydd risg, rheoli, llywodraethu a rheoleiddio. Hefyd, mae ganddi brofiad o weithio fel archwilydd gan gynnwys yn y sector addysg ac mae’n gyd-berchennog/Cyfarwyddwr busnes teulu mewn podiatreg.

Swyddog Llywodraethu

Marie Carter profile photo

Marie Carter

Mae Marie wedi bod yn Swyddog Llywodraethu ers mis Mehefin 2015. Hi sy’n gyfrifol am weithredu’r Bwrdd o ddydd i ddydd, gan roi cyngor iddo ar weithdrefn a pholisi, trefnu a chofnodi cyfarfodydd a chadw cofnodion. Mae hi hefyd yn gweithredu fel Swyddog Rhyddid Gwybodaeth i’r Coleg. Mae Marie wedi gweithio yn Â鶹´«Ã½AV ers 2008, mewn swyddi cefnogi dysgwyr ac addysgu yn y gorffennol. Cyn hynny, roedd ganddi yrfa yn y Gwasanaeth Sifil a oedd yn cynnwys sawl blwyddyn fel Clerc i bwyllgor cynghori’r Llywodraeth yn Llundain.