Â鶹´«Ã½AV

En
Tegan Davies from Torfaen Learning Zone

Tegan Davies, sydd ag uchelgais i fod yn awdur, yn trafod bywyd coleg, hyder ac amcanion ar gyfer y dyfodol


22 Chwefror 2021

Cwrdd â’r dysgwr

Enw: Tegan Davies
Cartref:
°ä·É³¾²ú°ùâ²Ô
Cwrs:
UG/Safon Uwch – Y Cyfryngau, Llenyddiaeth Saesneg, Y Gyfraith, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
Campws:
Parth Dysgu Torfaen

Fel rhywun sy’n mwynhau ysgrifennu traethodau a dadansoddi fel rhan o’i dysgu, Safon Uwch oedd y llwybr delfrydol i Tegan, a ddewisodd astudio ym Mhorth Dysgu Torfaen. Gydag uchelgais i fod yn  awdur yn y dyfodol, mae gan Tegan ddiddordeb yn y gyfraith, gwleidyddiaeth a’r cyfryngau hefyd, felly mae ystod o bynciau Safon Uwch yn ei chadw’n ddiddan.

Pam y dewisoch chi Â鶹´«Ã½AV?

“Dewisais Â鶹´«Ã½AV am fy mod i eisiau cydbwysedd da rhwng fy nysgu a fy mywyd preifat, felly gyda choleg gerllaw sydd wedi cael adolygiadau gwych, roedd yn ddewis hawdd. Doeddwn i ddim eisiau teithio’n bell, achos yn yr ysgol uwchradd roedd yn rhaid i mi godi am 5am, a gafodd effaith niweidiol ar fy iechyd meddwl a fy astudiaethau yn y pen draw. Felly, mae gallu deffro a bod pum munud i ffwrdd o’r coleg yn wych i mi. â€

Beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am y cwrs ac astudio yng Â鶹´«Ã½AV?

“Mae’n bleser dod i’r coleg bob dydd i astudio’r hyn sy’n mynd â ’mryd i. Rwy’n cael treulio amser gyda fy ffrindiau yn dysgu ac yn gwneud yr hyn rwy’n ei garu, sy’n ddelfrydol i mi. Rwy’n hoffi’r gwaith ysgrifennu sy’n rhan o’m pynciau i gyd – rwy’n astudio ystod o bynciau diddorol iawn ac yn hoff iawn o’r modiwlau rydyn ni wedi’u gwneud hyd yn hyn. Mae fy athrawon i gyd yn hyfryd a chymwynasgar iawn, ac a dweud y gwir, mae’r gefnogaeth rwy’n ei chael gan bob un ohonyn nhw yn berffaith.

Mae yna lawer o bethau cadarnhaol ynglÅ·n ag astudio yng Â鶹´«Ã½AV. Mae fy athrawon i gyd yn hyfryd a hyblyg o ran eu ffyrdd o addysgu. Maen nhw i gyd yn hynod o ddeallus ac rwy’n eu hedmygu’n fawr – rwy’n dysgu cymaint ym mhob gwers sy’n fy mharatoi ar gyfer fy arholiadau ac astudiaethau pellach. Mae ’na gyfleusterau anhygoel ym Mharth Dysgu newydd Torfaen, a chyn gynted ag y bydd y llywodraeth yn caniatáu hynny, alla’i ddim aros i fynd yno.

Mae hefyd yn braf iawn bod y coleg wedi sefydlu grŵp LGBTQ + i ni, oherwydd yn yr ysgol uwchradd, roedd hyn rhywbeth oedd yn rhaid i ni ei guddio.â€

Beth yw eich nodau tymor hir?

“Ar ôl gadael coleg, fy uchelgais yw mynd i brifysgol Ivy League / Grŵp Russell – yn ddelfrydol i Goleg Lincoln yn Rhydychen i astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg. Ar ôl hynny, byddwn i wrth fy modd bod yn awdur o ryw fath, gan gyhoeddi llyfrau ffuglen. Hyd yn hyn mae Â鶹´«Ã½AV wedi fy mentora trwy fy nhiwtor personol i wir gredu ynof fi fy hun a dechrau cynllunio fy nyfodol fel fy mod i’n llwyddiannus.â€

Beth yw eich cyflawniad mwyaf hyd yn hyn?

“Yn y coleg, enillais wobr am gyrhaeddiad eithriadol yn ystod y tymor yma. Yn gyffredinol, rwyf wedi ennill gwobrau am ysgrifennu yn yr ysgol uwchradd, ac wedi cael 7A* a 5A ar lefel TGAU.â€

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau cyn mynychu Â鶹´«Ã½AV?

“Cyn dechrau coleg, cafodd COVID-19 ei gyhoeddi fel pandemig byd-eang ac o ganlyniad roedden ni mewn cyfnod clo am fisoedd. Collais fy ychydig fisoedd olaf yn yr ysgol uwchradd, a fyddai wedi cynnwys arholiadau, taith ysgol i Rufain a’r Fatican, a hyd yn oed prom. Roedd y rhain i gyd yn bethau wnaeth effeithio arna’i gan ’mod i’n teimlo fy mod i’n colli rhannau hollbwysig o fy arddegau oherwydd y coronafeirws.

Fodd bynnag, un peth oedd yn sicr oedd fy mod i wedi cael fy nerbyn i Â鶹´«Ã½AV. Trwy gydol y cyfnod pontio anodd, cefnogodd Â鶹´«Ã½AV fi a ’ngwneud i’n sicr o fy newisiadau. Felly, er i’r cyfnod pontio ymddangos yn un anodd i ddechrau, sicrhaodd y coleg ei fod yn un cymharol syml. ”

A oes gennych gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yng Â鶹´«Ã½AV?

“Peidiwch â phoeni gormod a ydych chi wedi gwneud y dewisiadau cywir ai peidio. Os na fyddwch chi’n mwynhau pwnc ar ôl ychydig wythnosau, gallwch ei newid. Fe wnes i hynny gyda Ffotograffiaeth a Gwleidyddiaeth, a dyna oedd y penderfyniad gorau.

Hefyd, byddwch yn chi’ch hun. Roedd pobl yn gwneud hwyl ofnadwy ar fy mhen i yn yr ysgol uwchradd oherwydd y ffordd roeddwn i’n edrych ac yn gwisgo, a fy niddordebau. Pan ddes i’r coleg, roeddwn i’n gwisgo’n union sut roeddwn i eisiau gwisgo heb gael fy nal yn ôl gan wisg ysgol, a dod o hyd i gymaint o bobl eraill oedd â diddordeb mewn pethau tebyg. Rwyf wedi magu cymaint o hyder ers ymuno â Â鶹´«Ã½AV ac erbyn hyn rwy’n ddigon dewr i siarad o flaen y dosbarth, siarad gyda phobl ddieithr, ac amddiffyn fy hun heb ofni beth fydd pobl eraill yn ei feddwl.”

Yn Â鶹´«Ã½AV, rydym yn gymuned gyfeillgar, groesawgar ac amrywiol lle mae pawb yn gallu bod yn nhw eu hunain wrth ddysgu a chyrraedd eu potensial. Mae Safon Uwch yn llwybr gwych ar gyfer dysgwyr fel Tegan sy’n chwilio am bynciau amrywiol ac arddull ddysgu academaidd. Ond mae ein hystod eang o brentisiaethau a chyrsiau galwedigaethol poblogaidd yn cynnig dull mwy ymarferol ar gyfer y rheini sy’n chwilio am lwybr mwy ymarferol. Dewch o hyd i’r cwrs sy’n iawn i chi yn ein rhith-ddigwyddiad agored nesaf neu gwnewch gais trwy ein gwefan heddiw.