Â鶹´«Ã½AV

En

Â鶹´«Ã½AV yn cipio'r aur yn rowndiau terfynol WorldSkills y DU


26 Tachwedd 2018

Â鶹´«Ã½AV yn cipio'r aur yn rowndiau terfynol WorldSkills y DU

Enillodd myfyrwyr Â鶹´«Ã½AV wobrau aur yn ogystal â chymeradwyaeth uchel yn rowndiau terfynol cenedlaethol, byw WorldSkills y DU, gan guro cyd-gystadleuwyr o golegau eraill ledled y DU.

Enillodd dwy fyfyrwraig, Lauren Evans a Charlotte Hardy fedalau aur, Lauren yn y gystadleuaeth Therapi Harddwch(Dwylo a’r Wyneb) a Charlotte yn y gystadleuaeth Gwyddor Fforensig, gyda’r ddysgwraig Stacey Davey yn derbyn cymeradwyaeth uchel yn y seremoni wobrwyo yn Birmingham ar ddydd Sadwrn 17 Tachwedd. Sicrhaodd llwyddiannau’r merched fod Â鶹´«Ã½AV yn gorffen yn y nawfed safle yn nhabl cynghrair y 10 uchaf am yr ail flwyddyn yn olynol. Roedd Â鶹´«Ã½AV yn un o bedwar o golegau Cymru i gael eu cynnwys yn nhabl cynghrair eleni.

Myfyrwyr euraidd.

“Mae’n anodd credu fy mod wedi cipio’r wobr aur! Roedd rhaid i mi ymchwilio i leoliad trosedd ffug a chwblhau dadansoddiad fel rhan o’r gystadleuaeth, tebyg iawn i’r hyn yr oedd rhaid i mi ei wneud yn rowndiau terfynol cenedlaethol Cymru. Roedd WorldSkills y DU yn fwy nag yr oeddwn wedi ei ddisgwyl ac roedd y safon yn uchel iawn, rwyf wedi synnu fy mod wedi ennill medal!

“Nid oes gennyf amheuaeth mai’r rheswm pam fy mod wedi gallu llwyddo i ennill y wobr gyntaf yw oherwydd yr anogaeth a’r gefnogaeth ddiddiwedd a gefais gan fy nhiwtor cwrs” meddai Charlotte Hardy, myfyrwraig Gradd Sylfaen mewn Gwyddorau Fforensig a Dadansoddol.

Ategodd Lauren, enillydd medal aur, sydd ar hyn o bryd yn astudio ei NVQ Lefel 3 mewn Therapi Harddwch, ddatganiad Charlotte: “Byddwn heb amheuaeth yn argymell unrhyw un i gystadlu yng nghystadleuaeth WorldSkills y DU! Rydych yn dysgu cymaint wrth gymryd rhan ac mae wedi fy helpu i gael golwg wahanol ar harddwch. Drwy gystadlu, mae’n edrych yn wych ar eich CV hefyd.”

Beth yw World Skills?

Mae cystadlaethau WorldSkills y DU yn agored i fyfyrwyr a phrentisiaid o bob cwr o’r DU, lle gall cyflogwyr, colegau ac ysgolion gofrestru dysgwyr i gymryd rhan. Mae dwy ran i’r gystadleuaeth, sy’n gweld myfyrwyr yn cystadlu ar draws 70 o ddisgyblaethau gwahanol gan gynnwys peirianneg a thechnoleg. Yn gyntaf, gwahoddir myfyrwyr i gymryd rhan yn rowndiau terfynol cenedlaethol Cymru, sy’n cael eu cynnal ar lefel ranbarthol. Yna, mae’r myfyrwyr sy’n llwyddiannus ar y lefel ranbarthol yn mynd ymlaen i gystadlu ar lefel genedlaethol yn y rownd derfynol fyw yn Birmingham. Gwelwyd 85,000, mwy nag erioed yn ymweld â’r NEC y mis Tachwedd hwn.

Cymru, oedd y rhanbarth gyda’r niferoedd uchaf o fyfyrwyr yn cofrestru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, gyda 676 o gystadleuwyr yn cofrestru (cynnydd o 19% ers 2017). Cyfrannodd Â鶹´«Ã½AV yn helaeth at y ffigwr hwn, gan gofrestru ychydig o dan 100 o fyfyrwyr ar gyfer y gystadleuaeth.

“Ni fyddwn wedi gallu cystadlu heb gefnogaeth fy nhiwtor”
Llwyddodd 11 o fyfyrwyr Â鶹´«Ã½AV i gyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol, gan gynnwys myfyrwraig Diploma Lefel 3, Stacey Davey, sy’n astudio Tylino ym Maes Chwaraeon ac Atgyfeirio ar gyfer Ymarfer Corff. Wrth dderbyn cymeradwyaeth uchel dywedodd Stacey, “Mae’n anrhydedd cael fy nghydnabod yn y gystadleuaeth hon ac roedd cymryd rhan yn hwyl! Mae rhoi’r sgiliau yr ydych wedi eu dysgu fel rhan o’ch cwrs ar waith mewn cystadleuaeth heriol a chystadleuol fel hon yn profi eich gallu ond mae mor wobrwyol. Ni fyddwn wedi gallu ei wneud heb gefnogaeth fy nhiwtor a’r coleg.” Bydd enillwyr yn cael y cyfle i gael eu hystyried i gynrychioli’r DU yn y gystadleuaeth WorldSkills ryngwladol yn 2021.

Darllenwch fwy am lwyddiant WorldSkills Â鶹´«Ã½AV yma.