Â鶹´«Ã½AV

En
learners receive medals at the skills competition wales watch party

Myfyrwyr Â鶹´«Ã½AV yn fuddugol yn rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru


10 Mawrth 2023

Myfyrwyr Â鶹´«Ã½AV yn fuddugol yn rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

Mae myfyrwyr Â鶹´«Ã½AV wedi cystadlu yn erbyn cannoedd o gystadleuwyr eraill ar draws y wlad fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru. Eleni, arddangosodd 113 o fyfyrwyr eu gallu, eu cymhwysedd a’u gwybodaeth gan ennill cyfanswm o 17 o fedalau yng nghategorïau aur, arian ac efydd.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid herio, meincnodi a chynyddu eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chynnal gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu yn y gweithle a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae’n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol sydd wedi’u halinio â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

Esboniodd Rheolwr Cystadleuaeth Sgiliau, Richard Wheeler, “Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, nid yn unig, yn ffordd wych o wella eich sgiliau technegol ond, hefyd, y sgiliau cyflogadwyedd allweddol sy’n angenrheidiol ar gyfer cystadleuaeth megis perfformio dan bwysau, rheoli amser, cynllunio a datrys problemau.

Yn amlwg, caiff y sgiliau hyn eu profi yn ystod cystadleuaeth a, gyda chymorth eich tiwtoriaid yn Â鶹´«Ã½AV, gallwch chi eu hymarfer ynghyd â’r sgiliau technegol yn ystod y cyfnod cyn y gystadleuaeth. Mae Â鶹´«Ã½AV yn gweithio’n galed i ymgorffori cystadlaethau yn rhan o’r cwricwlwm a chodi’r safon ar draws ei ddarpariaeth o lefel cymhwysedd i lefel rhagoriaeth.â€

Trwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, gall myfyrwyr fagu eu hyder, ennill profiad gwerthfawr, dysgu gan arbenigwyr diwydiant ac, yn bennaf, ddod yn fwy cyflogadwy ar ôl gadael y coleg. Bydd cynnwys Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar eich CV yn eich amlygu wrth gyflwyno cais am swydd ac, nid oes gennym unrhyw amheuaeth, y bydd ein myfyrwyr yn llwyddiannus yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol!

Dathlu’r rhai o Â鶹´«Ã½AV a enillodd fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2023

Llongyfarchiadau i’n 17 o fyfyrwyr a enillodd fedalau aur, arian ac efydd a da iawn i bawb a gymerodd ran eleni:

Aur:

  1. Kvle Gooding – Gwaith Metal Adeiladu
  2. Loren Payne – Hyfforddwr Personol
  3. Mitchel Bradbury – Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Bwyty

Arian:

  1. Nicole Westmeckett – Celf Gemio 3D
  2. Lucie Price – Colur Creadigol
  3. Brandon Chetnik – Bricwaith
  4. Joseph Bennet – Plymio a Gwresogi
  5. Emily Bond Wright – Sgiliau Cynhwysol: Sgiliau Bywyd
  6. Trin Gwallt – Chantelle Gleed

Efydd:

  1. Dominik Kandrac – Atgyweirio Corff Cerbydau
  2. Alfie Bannister – Celf Gemio 3D
  3. Laura James – Colur Creadigol
  4. Aimee Critchley – Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn
  5. Ryan Fouweather – Hyfforddwr Personol
  6. Jay Hale – Sgiliau Cynhwysol: Atebion Meddalwedd TG i Fusnes
  7. Shaun Davies – Sgiliau Cynhwysol: Bwyd
  8. Isabel Coulson – Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff)

O harddwch a thrin gwallt i gelf gemio 3D ac atgyweirio corff cerbydau, rydym yn falch bod ein myfyrwyr wedi rhoi 110% wrth arddangos y sgiliau y maent wedi’u datblygu wrth astudio ar gwrs yn Â鶹´«Ã½AV.