22 Mai 2020
Rydym yn hynod falch o’n myfyrwyr a staff ysbrydoledig, sydd wedi bod yn gwneud eu gorau glas i gynnig help llaw i’r gymuned leol yn ystod y cyfyngiadau symud yn sgil y Coronafeirws. Felly, beth am roi sylw i rai o’r pethau gwych sydd wedi bod yn mynd ymlaen…
I barhau â’r dysgu, cyflwynom addysgu a dysgu rhithiol gan ddefnyddio’r holl dechnoleg ar gael i ni, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae’r coleg wedi parhau, wrth gadw ein myfyrwyr a staff yn ddiogel. Ond ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb eich cefnogaeth chi!
Gyda chyflenwadau o gyfarpar diogelu personol (PPE) yn isel mewn ysbytai, daeth ein staff ymroddedig yn y Coleg i’w cyfrannu i’r bwrdd iechyd lleol, . Cafwyd cyfraniadau gan yr adrannau Gwyddoniaeth, Gwallt a Harddwch, Peirianneg a Cherbydau Modur ac roeddent yn cynnwys:
Nid yw nifer o gleifion ysbytai a thrigolion cartrefi gofal yn cael gweld eu teulu na’u ffrindiau, ac efallai nad oes ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt. Felly, ar y cyd â’n partneriaid yn , cyfrannom frwshys a chribau gwallt i Ysbyty Brenhinol Gwent a chartrefi gofal lleol. Diolch i’n partneriaid yn Goldwell am ein helpu i helpu ein cymuned!
Bu i’r Darlithydd Dylunio a Thechnoleg David Watkins, ddatblygu, profi a defnyddio ein hargraffwyr 3D o’r radd flaenaf ar Gampws Dinas Casnewydd i gynhyrchu dyblygiadau o’r rhannau sy’n ofynnol ar gyfer y peiriannau a ddefnyddir i brofi am COVID-19. Cynorthwyodd John Williams, Darlithydd yn yr Ysgol Peirianneg, Celf a’r Cyfryngau i argraffu hefyd, a llwyddodd y ddau i gynyddu’r capasiti profi yng Nghymru 10%.
Bu i Daniel Lockett, Arweinydd Cwrs Peirianneg gydlynu ymdrechion argraffu 3D staff o Barth Dysgu Blaenau Gwent hefyd. Camodd y criw i’r adwy gan ddefnyddio argraffwyr 3D soffistigedig yn yr adran Beirianneg i gynhyrchu amddiffynwyr wyneb i ymgyrch , gan gynhyrchu cannoedd o unedau i Ysbyty Llandochau, Ysbyty Neville Hall a mwy.
I helpu , agorom ein Campws Brynbuga fel cyfleuster hyfforddi. Bu i ddau o’n staff addysgu a Nyrsys Cofrestredig – Helen Curtis o Gampws Pont-y-pŵl a John Whitcher o Barth Dysgu Blaenau Gwent – ddarparu hyfforddiant gloywi sgiliau clinigol carlam mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, gan helpu i symud mwy o staff y GIG i’r rheng flaen.
Da iawn i’n holl fyfyrwyr a staff sydd wedi gwirfoddoli eu hamser i helpu’r gymuned leol. Dangosodd 40 o fyfyrwyr ddiddordeb mewn gwirfoddoli i weithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac roedd eu gwaith gwirfoddol yn amrywio o ddanfon presgripsiynau, i ofalu am yr oedrannus yn uniongyrchol.
Er bod ein campysau ar gau yn sgil cyfyngiadau’r llywodraeth, rydym yn parhau i dderbyn ceisiadau newydd ar gyfer mis Medi 2020. Ond deallwn fod edrych o amgylch ein campysau a chwrdd â thiwtoriaid yn rhan bwysig o’ch proses benderfynu. I’ch helpu i wneud hyn, rydym yn datblygu digwyddiadau agored rhithiol yn hytrach, fel y gallwch archwilio bywyd yn y coleg o ddiogelwch a chysur eich cartref!
Roeddem bob amser yn gwybod fod gan ein staff a dysgwyr yn 鶹ýAV y gallu i ragori… ond nid ydym erioed wedi teimlo mor falch o’r caredigrwydd a’r ymroddiad a ddangoswyd gyda’r #ColegYnParhau er gwaetha’r cyfyngiadau symud.
Dewch yn rhan o’n cymuned ysbrydoledig – ymgeisiwch nawr ar gyfer mis Medi!