19 Gorffennaf 2019
Llongyfarchiadau i’n darlithwyr adeiladu sydd wedi cwblhau eu taith feicio flynyddol yn llwyddiannus, er mwyn codi arian ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant.
Mae staff Â鶹´«Ã½AV wedi codi miloedd o bunnau ar gyfer llu o elusennau gwahanol dros y ddegawd diwethaf.
Trevor Hull, plymwr sy’n 62 mlwydd oed, yw trefnydd taith feicio Â鶹´«Ã½AV, sy’n daith gylchol 33 milltir, yn dechrau ac yn gorffen yng Nghampws Dinas Casnewydd, ac yn galw heibio Campws Brynbuga ar y ffordd.
Dywedodd Trevor, sy’n feiciwr brwd: “Mae wyth beiciwr wedi cymryd rhan yn y daith. Rydym wedi dewis cefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant eto eleni, oherwydd bod aelod hir sefydlog o staff wedi cael gofal gan yr elusen.”
Roedd y staff adeiladu, yn eu plith plymwyr, trydanwyr a bricwyr, yn cael cwmni Emma Foster, y swyddog cyllid.
“Aeth y daith yn dda iawn ac rydym yn falch iawn o godi arian ar gyfer achos mor haeddiannol,” ychwanegodd Trevor.
Dywedodd Skye Lewis, o Gofal Hosbis Dewi Sant: “Rydym wrth ein boddau bod staff adeiladu Â鶹´«Ã½AV wedi dewis cefnogi ein helusen ni unwaith eto, ac yn hybu iechyd a ffitrwydd wrth wneud hynny, hefyd.”