鶹ýAV

En
Our Employer Pledge goes from strength to strength

Addewid Cyflogwr yn mynd o nerth i nerth


12 Gorffennaf 2022

Mae’r Addewid Partneriaeth Cyflogwr, a lansiom fis Medi 2021, yn parhau i dyfu a datblygu wrth nesáu at ei ben-blwydd cyntaf eleni. Bwriad yr addewid pwysig hwn yw cryfhau ein cysylltiadau gyda’r diwydiant a chyflogwyr lleol, a chynnig mwy o gyfleoedd addysgol i chi ar yr un pryd a bod o fudd i’r cwmnïau sydd ynghlwm hefyd. Mae’r addewid wedi cael blwyddyn gyntaf wych, gyda mwy a mwy o gyflogwyr yn cofrestru a mwy a mwy o gyfleoedd yn cael eu cynnig i’n dysgwyr.

Ym mis Mehefin, cynaliasom ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer cyflogwyr ar safle cwmni sydd newydd gofrestru gyda ni, . Cafodd pawb a oedd yn bresennol olwg manwl ar gynnydd yr addewid, mwynhau gwrando ar Gyfarwyddwr , Richard Selby, deall mwy am sut y dechreuodd Tiny Rebel, a chael taith o amgylch y bragdy llwyddiannus sydd dafliad carreg o Gampws Crosskeys.

Our Employer Pledge goes from strength to strength

Siaradodd Beccy Legge, Pennaeth Pobl yn Tiny Rebel, am eu rhesymau dros ymuno â’r addewid:

“Mae Tiny Rebel yn frwd dros gynnig cyfleoedd sy’n tynnu sylw at lwybrau gwahanol i mewn i gyflogaeth, a gallu rhoi profiadau o hynny, yn ogystal â gallu cynnig sgiliau a phrofiadau newydd i’r byd gwaith mewn ffordd wahanol. Rydym bob amser wedi gweithio gyda sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol i allu cynnig rhywbeth yn ôl, ac roeddem yn teimlo mai dyma’r cam nesaf o fewn hynny. Erbyn hyn, mae Tiny Rebel yn gartref i nifer o gyn-fyfyrwyr 鶹ýAV, ac roeddem eisiau dathlu hyn ymhellach gyda chenhedlaeth y dyfodol y gweithle.”

O fewn y digwyddiad, dathlwyd croesawu dau bartner newydd i’r addewid, a Tiny Rebel, sydd wedi cael eu croesawu i mewn i’n teulu o gyflogwyr wedi hir ddisgwyl. Heddiw, mae cyfanswm o 14 cwmni lleol arbennig wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda 鶹ýAV, ac mae’r buddion i’n dysgwyr a’r cwmnïau eisoes yn amlygu eu hunain mewn sawl maes.

Mae rhai o’r llwyddiannau hyn yn cynnwys lansio Interniaethau gyda Chefnogaeth Ysbrydoli i Gyflawni mewn partneriaeth â , lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yng , lansio Hwb Seiber ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent mewn partneriaeth ag a , a rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio peiriannau o’r un maint â rhai’r diwydiant yn Pro Steel Engineering. Yn ogystal â sicrhau bod cwmnïau ar eu hennill, mae’r cyfleoedd hyn hefyd yn sicrhau bod ein dysgwyr yn meithrin sgiliau, profiadau a gwybodaeth newydd am y byd gwaith gyda diolch i’r Addewid Partneriaeth Cyflogwr.

Our Employer Pledge goes from strength to strength

Roeddem yn falch iawn fod cymaint o’n cyflogwyr partner wedi dod i’r digwyddiad hwn, i ddathlu llwyddiant y fenter hyd yn hyn. Mae cymaint o gydweithio cadarnhaol wedi digwydd yn barod eleni, gyda sefydliadau o amrywiaeth o sectorau gwahanol yn cymryd rhan. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr amser maen nhw wedi’i roi i’n myfyrwyr, er mwyn sicrhau ffyniant ein hardal fusnes leol yn y dyfodol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio â 鶹ýAV a’n myfyrwyr, gallwch weld mwy o wybodaeth am gofrestru’ch sefydliad gyda’r Bartneriaeth Addewid yma.