Â鶹´«Ã½AV

En

Llongyfarchiadau i’r dysgwyr hynny sydd wedi cael eu canlyniadau TGAU a BTEC Lefel 2 heddiw!


22 Awst 2024

Dosbarth 2024 yn cael diwrnod canlyniadau TGAU llwyddiannus

Yma yn Â鶹´«Ã½AV, rydyn ni’n dathlu cyfraddau llwyddo gwych dosbarth 2024. Eleni, rydyn ni weld gweld cyfradd lwyddo o 90.8% ar gyfer Mathemateg TGAU, a chyfradd lwyddo ragorol o 97.4% ar gyfer Saesneg TGAU.

Da iawn i’r holl ddysgwyr sydd wedi gweithio’n galed iawn i lwyddo a chyflawni eu graddau.

Yn Â鶹´«Ã½AV, mae gan ddysgwyr gyfle i ailsefyll eu harholiadau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg wrth astudio ar gyrsiau academaidd neu alwedigaethol ar lefel uwch. Mae llawer o resymau pam bod pobl yn dewis gwneud hyn megis heb ennill y canlyniadau roedden nhw eu heisiau y tro cyntaf, dymuno uwch-sgilio, ehangu opsiynau gyrfa neu gynyddu eu siawns o gael lle yn y brifysgol. Beth bynnag yw’ch rhesymau a’ch amcanion, gall Â鶹´«Ã½AV eich helpu chi i gyrraedd eich nod.

Dywedodd Mark Harding, Cyfarwyddwr Cyswllt Dysgu a Sgiliau Gydol Oes: “Mae ein dysgwyr wedi dangos ymroddiad rhyfeddol ac mae llawer ohonynt wedi ennill graddau da ar draws Saesneg a Mathemateg. Mae gwaith caled ein dysgwyr, ynghyd â chymorth diwyro ein staff addysgu ymroddedig, wedi siarad cyfrolau. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi profi llwyddiant heddiw a dymunaf ddymuniadau da ar gyfer y dyfodol i bob un ohonynt.â€

Bydd nifer o fyfyrwyr nawr yn edrych ymlaen at gael dechrau astudio gyda ni fis Medi, a chymryd y camau nesaf o fewn eu taith addysgiadol at gyrsiau Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol. Braf fydd cael eich croesawu chi i wythnos y glas fis Medi. Os nad ydych wedi gwneud cais eto, mae gennych amser i ymuno â ni. Felly ewch amdani i wneud cais ac osgoi cael eich siomi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld fis Medi.