Mae ystod o gyrsiau ar gael sy’n addas i fyfyrwyr o amrywiol gefndiroedd a gallu addysgiadol
Fe wnawn eich cynorthwyo i ddysgu rheoli eich arian eich hun, coginio eich bwyd eich hun, cynllunio eich gyrfa eich hun a byw bywyd annibynnol yn eich cymuned.
Ynghyd â dysgu sgiliau ymarferol, byddwn yn eich helpu i gynyddu eich hunanhyder i’ch cynorthwyo i fyw bywyd gweithgar. Byddwch yn astudio cymysgedd o sgiliau galwedigaethol a chreadigol fel celf a chrefft, coginio, garddio a TG, ynghyd â pharhau i wella eich llythrennedd, rhifedd a sgiliau hanfodol eraill.
Byddwch hefyd yn mynd ar deithiau ac ymweliadau i leoliadau megis amwynderau, amgueddfeydd ac atyniadau twristiaeth lleol ynghyd â chyfranogi mewn gweithgareddau codi arian a menter.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol gan ystyrir anghenion bob dysgwr ar sail unigol; byddwn yn asesu eich anghenion unigol i sicrhau eich bod yn cofrestru ar y cwrs iawn i chi.
Byddwch yn cael y cyfle i fynychu rhaglen drosglwyddo lle gallwch gwrdd â’r tiwtoriaid, mynychu rhai gwersi a dod i adnabod y coleg cyn i chi ddechrau.
Teithiau Rithwir 360° Sgiliau Byw’n Annibynnol
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr