Â鶹´«Ã½AV

En

Bagloriaeth Sgiliau Uwch

Eich Sgiliau, Eich Dyfodol!

O fis Medi 2023, caiff cymhwyster Bagloriaeth Cymru ei ddisodli gan gymhwyster newydd, Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Bydd pob dysgwr sy’n astudio ar gwrs Safon Uwch yn Â鶹´«Ã½AV yn cael budd o’r rhaglen Bagloriaeth Sgiliau Uwch ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

Yn ogystal â darparu’r sgiliau hanfodol i chi ochr yn ochr â’r llwybr o’ch dewis, mae rhaglen Bagloriaeth Sgiliau Uwch hefyd yn darparu cymhwyster ychwanegol sy’n cyfateb i un cymhwyster Safon Uwch. Bydd y cymhwyster hefyd yn darparu pwyntiau UCAS ychwanegol i chi felly bydd yn ddefnyddiol os ydych chi’n ystyried mynd i astudio yn y brifysgol!

Os ydych chi’n ystyried mynd i fyd gwaith, mae rhaglen Bagloriaeth Sgiliau Uwch yn ychwanegiad gwych at eich CV am ei bod yn dangos gallu academaidd a chymhwysedd o ran sgiliau. Mae cyflogwyr yn ei gwerthfawrogi’n fawr ac yn chwilio amdani.

Cyflwynir rhaglen Bagloriaeth Sgiliau Uwch gan gadw eich dyfodol mewn cof gan roi cyfleoedd i chi ddewis eich meysydd astudio eich hun wrth wella eich sgiliau cynllunio a threfnu; meddwl yn feirniadol a datrys problemau; creadigrwydd ac arloesedd; ac effeithiolrwydd personol (y ‘Sgiliau Hanfodol’).

Prosiect Cymunedol Byd-eang

  • Asesiad di-arholiad (NEA)
  • 25% o’r cymhwyster
  • Bydd dysgwyr yn dangos cymhwysiad o’r sgiliau annatod wrth ystyried materion byd-eang cymhleth a chymryd rhan mewn gweithredu cymunedol lleol (o leiaf 15 awr) i hyrwyddo dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy a Chymru.

Prosiect Cyrchfannau'r Dyfodol

  • Asesiad di-arholiad (NEA):
  • 25% o’r cymhwyster
  • Bydd dysgwyr yn dangos cymhwysiad o’r sgiliau annatod ac hefyd archwilio nodau cyrchfan yn y dyfodol ar gyfer bywyd, cyflogadwyedd a dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy a Chymru.

Prosiect Unigol

  • Asesiad di-arholiad (NEA)
  • 50% o’r cymhwyster
  • Bydd dysgwyr yn dangos cymhwysiad o’r sgiliau annatod wrth gynllunio, rheoli a chynnal prosiect ymchwil annibynnol (prosiect ysgrifenedig estynedig neu arteffact).
Skills staff on orange background
play

Bydd y sgiliau cyflogadwyedd canlynol yn cael eu datblygu trwy gyfres o heriau ymarferol:

Llythrennedd

Dyma’r sgiliau a nodir ar gyfer, ac a gaiff eu hasesu trwy gyfrwng, TGAU Iaith Saesneg a/neu Iaith Gymraeg, a dylent gael eu datblygu hefyd trwy Brosiectau a Heriau Unigol.

Sgiliau rhifedd

Dyma’r sgiliau a nodir ar gyfer, ac a gaiff eu hasesu trwy gyfrwng, TGAU Mathemateg – Rhifedd, a dylent gael eu datblygu hefyd trwy Brosiectau a Heriau Unigol.

Llythrennedd digidol

  • Deall ac ymateb yn briodol i risgiau a phroblemau er mwyn cyfathrebu’n ddiogel mewn byd digidol
  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol!
    Deall a rheoli eich ôl troed digidol eich hun
  • Defnyddio, trin neu greu data a gwybodaeth a’i gyflwyno’n ddigidol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
  • Y gallu i ganfod, trefnu, storio, rheoli, rhannu a diogelu gwybodaeth ddigidol
  • Gwerthuso pa mor ddibynadwy yw ffynonellau gwybodaeth
  • Defnyddio technegau a dulliau digidol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys: cydweithredu, gweithio mewn tîm, creadigrwydd, datrys problemau a dysgu

Menter a datrys problemau

  • Deall dulliau a thechnegau penderfynu a datrys problemau, a’u rhoi ar waith
  • Nodi a dadansoddi problemau neu faterion
  • Nodi atebion neu ymatebion posibl, ynghyd â rhesymau, yn ymwneud â barn wahanol
  • Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn gallu:
  • Hyfforddi a datblygu
    Asesu’n feirniadol gryfderau dewisiadau a dadleuon, gan ystyried barn groes neu syniadau, dilysrwydd a dibynadwyedd amgen
  • Cadarn, gwydn a phragmatig
    Cnoi cil ar ddulliau a thechnegau’n ymwneud â meddwl beirniadol, gwneud penderfyniadau a datrys problemau, a pha mor fedrus ydych chi wrth wneud hyn

Cynllunio a Threfnu

  • Nodau ac amcanion
    Y gallu i ddatblygu a chytuno ar nodau ac amcanion a phennu targedau neu gerrig milltir
  • Dangos eich bod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy
  • Y gallu i lunio cynllun, pennu a rheoli adnoddau, amserlenni, gweithgareddau a neilltuo cyfrifoldebau
  • Dewis, trefnu a gwerthuso gwybodaeth sy’n berthnasol i’r amcan neu’r cynllun
  • Rhoi’r cynllun ar waith
  • Monitro a gwerthuso’r cynllun, ei newid fel bo’r angen ac addasu i newid
  • Pennu risgiau ac ymateb iddynt
  • Cnoi cil ar y broses gynllunio a’i chanlyniadau, a’u gwerthuso

Creadigrwydd ac arloesi

  • Deall sut i gynhyrchu syniadau yn ogystal â nodi cyfleoedd a gwneud y gorau ohonynt
  • Dangos meddwl gwreiddiol a’r gallu i nodi a herio tybiaethau
  • Y gallu i gyfuno neu ddatblygu syniadau
  • Asesu a gwerthuso syniadau, dewis opsiynau a’u rhoi ar waith
  • Dangos dychymyg a blaengarwch
  • Cnoi cil ar y broses a nodi sut y gellir ei gwella

Effeithiolrwydd Rhyngbersonol

  • Deall, rheoli a gwella ymddygiad a pherfformiad
  • Dangos blaengarwch ac annibyniaeth
  • Effeithiolrwydd Rhyngbersonol
  • Rheoli amser yn effeithiol
  • Y gallu i ymateb yn briodol i wrthdaro
  • Deall rolau a thimau
  • Gweithio’n effeithlon mewn tîm
  • Parchu ac ymateb i werthoedd a barn pobl eraill, gan gyflwyno eich barn eich hun yn effeithiol