OCR Diploma Technegol Caergrawnt yn y Cyfryngau Lefel 2
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn eich cyflwyno i'r sgiliau sy'n ofynnol gan y cyfryngau amrywiol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych yn greadigol
... Ydych eisiau gyrfa sy'n ymwneud â thechnoleg
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn gallu cymell eich hun
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd eisiau gweithio mewn swydd greadigol sy'n ymwneud â thechnoleg a symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn maes pwnc perthnasol (e.e. y cyfryngau creadigol, y cyfryngau rhyngweithiol, dylunio gemau, graffeg neu ffotograffiaeth).
Byddwch yn adeiladu eich dealltwriaeth a galluoedd ymarferol mewn amrywiaeth o brosesau a meddalwedd a byddwch yn cwblhau ystod o aseiniadau ymarferol. Byddwch yn gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm ar gyfer aseiniadau ymarferol.
Bydd gennych fynediad at y feddalwedd Adobe Creative Cloud a'r cyfrifiaduron Apple Mac diweddaraf, ynghyd â chyfleusterau cyfredol rhagorol.
Cewch eich asesu drwy waith ymchwil a dadansoddi, gwaith ysgrifenedig, dylunio creadigol, defnydd o dechnoleg, datrys problemau, a gwerthuso. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:
- Diploma OCR Lefel 2 mewn Cynhyrchu'r Cyfryngau
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru, mae angen i chi fod ag o leiaf 4 TGAU, Gradd D neu uwch, gan gynnwys mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Dylech allu datblygu syniadau creadigol a bod yn barod i archwilio ystod eang o brosesau technolegol. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, y gallu i gymell eich hun a brwdfrydedd tuag at y pwnc. Mae disgwyl i chi barhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ystod o Ddiplomau Estynedig Lefel 3 mewn disgyblaethau Creadigol, megis Diploma Technegol Caergrawnt OCR yn y Cyfryngau Digidol, Aml-gyfrwng, Dylunio Gemau, Ffotograffiaeth neu BTEC mewn Celf a Dylunio.
Cyfleoedd gyrfa posibl yn y cyfryngau mewn rolau fel animeiddiwr, golygydd comisiynu, marchnatwr digidol, cynorthwyydd golygyddol, cyfarwyddwr ffilm, golygydd ffilm/fideo, dylunydd graffeg, technegydd golau, darlledu/ffilm/fideo, rheolwr lleoliad, golygydd erthyglau cylchgrawn, newyddiadurwr cylchgrawn, cynllunydd y cyfryngau, cynllunydd cynhyrchu print, ymchwilydd rhaglen, cynorthwyydd darllediadau radio, cynhyrchydd radio, rhedwr, technegydd sain, ymchwilydd telegyfathrebu, gweithredwr camera teledu, cynhyrchydd teledu/ffilm/fideo, rheolwr llawr teledu, cydlynydd cynhyrchu teledu, dylunydd gwefannau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel rhan o'r gofynion mynediad bydd disgwyl i chi fynychu sesiwn flasu.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFBD0064AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr