Paratoi ar gyfer Astudiaethau Galwedigaethol Lefel Mynediad 3
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Lefel
Entry 3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Yn gryno
Mae hon yn rhaglen lefel mynediad sydd wedi ei dylunio ar gyfer dysgwyr ble gallai amgylchedd dosbarth nodweddiadol fod yn heriol iddynt. Mae'n gwrs cyflwyniadol i gwmpasu anghenion unigol bob dysgwr, gan ddarparu amgylchedd diogel iddynt astudio ynddo, cyn symud ymlaen at gyrsiau Lefel 1.
Dyma'r cwrs i chi os...
...Ydych eisiau profiad o fywyd yn y coleg.
...Rydych eisiau gwella eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.
...Rydych angen cyfle i wella eich sgiliau gwaith a bywyd wrth benderfynu ar lwybr eich gyrfa yn y dyfodol.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os nad oes gennych unrhyw gymwysterau ffurfiol ac yn chwilio am gwrs lefel mynediad.
Mae'r cwrs yn cyffwrdd ar amrywiaeth o bynciau ymarferol megis coginio, garddwriaeth, iechyd a hamdden, TGCh, a manwerthu er mwyn gwella sgiliau gwaith a bywyd pob myfyriwr.
Bydd dysgwyr yn gallu dewis o amrywiaeth o bynciau i weithio arnynt, yn dibynnu ar eu hanghenion dysgu. Byddant yn gweithio i gyflawni tystysgrif estynedig neu ddyfarniad mewn Astudiaethau Galwedigaethol BTEC Lefel 3, yn ogystal â Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Meysydd dan sylw:
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd
- Sgiliau cyflogadwyedd
- Prosiectau yn cwmpasu sgiliau meddal megis adeiladu hyder, perthnasau, presenoldeb a chynhwysiad.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Does dim gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd yn rhaid i chi ddangos parodrwydd i gymryd rhan ym mhob sesiwn a gweithgaredd.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch symud ymlaen at Fynediad i Astudiaethau Galwedigaethol, cyrsiau hyfforddi neu gyflogaeth wedi ei chefnogi.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn ystod y cwrs hwn, anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau gwirfoddoli gyda'r gymuned, i'w helpu nhw i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau.
Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael tiwtorialau wythnosol ac mae cymorth ar gael i ateb anghenion yr unigolyn a'u helpu nhw i ffynnu yn ystod eu hamser yn y coleg.
Byddwch yn cael eich dysgu mewn grwp bach, ac mae staff cefnogi yn gweithio'n agos gyda dysgwyr i annog hyder, hunan barch a sgiliau gwerthfawr eraill.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFSN0063AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr