鶹ýAV

En
Students with certificates and Sam Warburton speaking at the Learner Awards evening

Dathlu ein Gwobrau’r Dysgwyr blynyddol gyda Sam Warburton


20 Mehefin 2024

Mae Seremoni Gwobrau’r Dysgwyr yn llwyfan i ddathlu cyflawniadau eithriadol dysgwyr 鶹ýAV

Cynhaliwyd ein Seremoni Gwobrau’r Dysgwyr flynyddol yr wythnos diwethaf i anrhydeddu dysgwyr ysbrydoledig a’u hymroddiad a’u cyflawniadau drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Anerchodd ein siaradwr gwadd, Sam Warburton, y gynulleidfa gan ganmol ein dysgwyr am eu hymrwymiad i gyflawni pethau gwych.

Sam Warburton giving an award

Sam Warburton yw’r capten Cymru â’r nifer fwyaf o gapiau a chapten mwyaf llwyddiannus tîm Llewod Prydain ac Iwerddon yn eu hanes. Yn ystod ei yrfa ryngwladol ddisglair, enillodd 74 o gapiau a bu’n gapten ar gyfer 49 ohonynt. Enillodd ddau deitl y Chwe Gwlad ac un Gamp Lawn a daeth â’i yrfa i ben gan fod yn gapten nad oedd wedi colli gêm brawf y Llewod gan arwain y tîm yn Awstralia yn 2013 ac yn Seland Newydd yn 2017. Y tu hwnt i’r byd chwaraeon, mae Sam yn awdur, yn gyflwynydd podlediad ac yn entrepreneur gan ymgorffori gallu amryddawn a llwyddiant ar y cae ac oddi arno.

Rhoddodd gipolwg i ddysgwyr ar wydnwch ysbrydoledig a chymhellol yn ogystal â’r gallu i addasu a pherfformiad uchel.

Students performing at the Learner Awards evening

Mae Seremoni Gwobrau’r Dysgwyr yn llwyfan i ddathlu cyflawniadau eithriadol dysgwyr 鶹ýAV. Mae’r digwyddiad yn pwysleisio’r ymroddiad a’r gwaith caled y mae’r unigolion hynod hyn wedi’u dangos yn eu hastudiaethau, eu gweithgareddau allgyrsiol a’u cymunedau.

I dderbyn gwobr, efallai bod dysgwr wedi goresgyn adfyd, dangos agwedd gadarnhaol neu ddawn eithriadol, neu droi sefyllfa o fethu yn un o lwyddo.

Cafwyd 389 o enwebiadau eleni, sy’n dyst i’n dysgwyr anhygoel a’u gwydnwch a’u penderfyniad i lwyddo. Dewiswyd 100 o enillwyr Gwobr Cyflawniad Dysgwr ar draws tair cyfadran yn 鶹ýAV. Hefyd, dewiswyd pum dysgwr ar gyfer gwobrau cydnabyddiaeth arbennig.

Students with certificates at the Learner Awards evening

Eleni, rydym hefyd wedi ychwanegu dau gategori newydd sef Gwobr Ysbrydoliaeth a Gwydnwch Addysg Uwch a Gwobr Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn. Nod y gwobrau newydd hyn yw dathlu ein dysgwyr sy’n astudio ar gyrsiau ar lefel y brifysgol.

Dyfarnwyd Gwobrau’r Pennaeth Cynorthwyol i Kamal Ezzeddin, Amelia Williams, Anas Hamasaligh ar gyfer cynnydd a brofwyd yn eu hastudiaethau. Derbyniodd Frederick Annett Wobr y Cadeirydd am oresgyn adfyd ac enillodd Menna Jones Wobr y Pennaeth ar gyfer perfformiad neilltuol.

Dyweddodd Dirprwy Bennaeth, Nikki Gamlin:

“Mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn ddathliad ysbrydoledig o ymroddiad, dyfalbarhad a thwf. Rydym yn hynod o falch o gyflawniadau ein dysgwyr ac o’r tîm o staff dawnus sy’n gweithio’n galed yn eu cefnogi nhw bob dydd i gyflawni pethau gwych.

“Hoffwn ddiolch i Sam Warburton am ymuno â ni heno a rhannu ei fersiwn orau o’i hun gyda ni.

“Mae’r dathliad hwn yn ffordd o’n hatgoffa am rym dysgu gydol oes a’r potensial sydd gan bob un ohonom fel addysgwyr i gael effaith gadarnhaol. Gadewch i ni barhau i newid bywydau trwy ddysgu ac ysbrydoli pobl eraill wrth i ni fynd ar drywydd rhagoriaeth. Llongyfarchiadau unwaith eto i’n holl enillwyr a’r rhai a enwebwyd am wobr – rydych chi’n ein hysbrydoli ni bob dydd.”

Cynhaliwyd Seremoni Gwobrau’r Dysgwyr 2024 ar ddydd Iau 13eg Mehefin yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru.

Enillwyr

Gwobrau’r Pennaeth Cynorthwyol – Kamal Ezzeddin, Amelia Williams, Anas Hamasaligh

Gwobr y Cadeirydd – Frederick Annett

Gwobr y Pennaeth –Menna Jones

Y Gyfadran Astudiaethau Creadigol a Thechnegol

Gwobr Cyflawniad Peirianneg Awyrofod

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Muza Adam

Gwobr Cyflawniad Peirianneg Drydanol

Crosskeys – Kian Butcher

Gwobr Cyflawniad Peirianneg Fecanyddol

Crosskeys – Rhys Hopkins

Casnewydd – Osian Townsend Jones

Gwobr Cyflawniad Peirianneg Chwaraeon Moduro

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Keavie-Mae Mclaughlin

Gwobr Cyflawniad Peirianneg Cerbydau Modur

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Amelia Candler / Crosskeys – Ethan Rich / Casnewydd – Samuel Davy

Gwobr Cyflawniad Aml-sgiliau

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Lloyd Price / Casnewydd – Emmanuel Imariagbontua

Gwobr Cyflawniad Adeiladu

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Kayla Twaite / Casnewydd – Cameron Thompson

Gwobr Cyflawniad Gwasanaethau Adeiladu

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Evan Overton / Casnewydd – Amelia Williams

Gwobr Cyflawniad Dylunio Gemau

Crosskeys – Huw Watkins

Gwobr Cyflawniad E-chwaraeon

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Evan Tauati

Gwobr Cyflawniad Celf a Dylunio

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Aaliyah Stevens / Crosskeys – Sean Harding / Casnewydd – Isabella Blake / Parth Dysgu Torfaen – James Greening

Gwobr Cyflawniad y Cyfryngau

Crosskeys – Ryan Warlow / Casnewydd – Ioan Bartlett / Parth Dysgu Torfaen – Charlie Callaghan

Gwobr Cyflawniad Cerddoriaeth

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Katie John / Crosskeys – Eithne Blethyn

Gwobr y Celfyddydau Perfformio

Crosskeys – Megan Parsons

Gwobr Cyflawniad Sgiliau

  • Cyfraniad Neilltuol mewn Saesneg – Taylor Pope
  • Cyfraniad Neilltuol mewn Mathemateg – Ty Jarvis-Pickett
  • Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth/CBC – Alexander Mort

Gwobr yr Iaith Gymraeg

Sorrel Butler-Bright

Ysbrydoliaeth a Gwydnwch Addysg Uwch

Tomos Ebo

Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn

Megan Thomas Stone

Y Gyfadran Gofal ac Astudiaethau Cymunedol

Gwobr Cyflawniad Gofal Plant

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Alisha Long / Crosskeys – Kieran Tyler / Casnewydd – Hannah Culley / Parth Dysgu Torfaen – Jessica Twist

Gwobr Cyflawniad Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Ellie Gray / Crosskeys – Thomas Williams / Casnewydd – Jerusalem Kijumba / Parth Dysgu Torfaen – Elana Morgan

Gwobr Cyflawniad Sgiliau Byw yn Annibynnol

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Abi Phillips / Crosskeys – Craig Morgan / Casnewydd – Ryley Smith / Parth Dysgu Torfaen – Kayleigh Smith

Gwobr Cyflawniad Trin Gwallt

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Elissa Cummings / Crosskeys – Jessica Jackson / Casnewydd – Seren Evans

Gwobr Cyflawniad Harddwch

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Esther Njoku / Crosskeys – Tierney Parker

Gwobr Cyflawniad Arlwyo a Lletygarwch

Crosskeys – Frederick Annett

Gwobr Cyflawniad Teithio a Thwristiaeth

Crosskeys – Dion Barlow

Gwobr Cyflawniad ESOL

Casnewydd – Hoang Pham

Gwobr Cyflawniad Gwyddoniaeth

Casnewydd – Corey Jenkins / Parth Dysgu Torfaen – Amber James

Gwobr Cyflawniad Mynediad

Crosskeys – Rebecca Sayers / Casnewydd – Gemma Morgan / Parth Dysgu Torfaen – Anas Hamasalih

Gwobr Cyflawniad Sgiliau

  • Cyfraniad Neilltuol mewn Saesneg – Abi Philips
  • Cyfraniad Neilltuol mewn Mathemateg – Bethan Llewellyn
  • Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth/CBC – Tayah Richards

Gwobr yr Iaith Gymraeg

Libby Hodges

Ysbrydoliaeth a Gwydnwch Addysg Uwch

Nataliia Kliucho

Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn

Lydia Beavis

Mentergarwch ac Astudiaethau Academaidd

Gwobr Cyflawniad Safon UG

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Ethan Davies, Emma Edwards / Crosskeys – Molly Howells, Menna Jones / Parth Dysgu Torfaen – Nevaeh Carter, Tobias Dallimore

Gwobr Cyflawniad Safon Uwch

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Chloe Simmonds, Kasia Tomsa / Crosskeys – Logan Taylor, Brody Winterflood / Parth Dysgu Torfaen – Josiah Morgan, Seren Wilkie

Diploma Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth

Crosskeys – Lucia Taylor

Gwobr Cyflawniad Busnes

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Maisie Cadwallader/ Crosskeys – Joe Horne / Casnewydd – Kamal Ezzeddin / Parth Dysgu Torfaen – Jamie Benzey

Gwobr Cyflawniad Cyfrifiaduron

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Aiden Rees / Crosskeys – Molly Bensley / Casnewydd – Nathan Barrett / Parth Dysgu Torfaen – Ethan Kinge

Gwobr Cyflawniad Chwaraeon

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Morgan Davies / Crosskeys – Susan Rondel / Parth Dysgu Torfaen – Aron Tugwell

Gwobr Cyflawniad Gwasanaethau Cyhoeddus

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Holly Rapps / Crosskeys – Masih Hahan / Parth Dysgu Torfaen – Alex Ouata-Gladwell

Gwobr Cyflawniad Iechyd a Ffitrwydd

Brynbuga – Damiano Argentieri

Gwobr Cyflawniad Gofal Anifeiliaid

Brynbuga – Maximus Chaplin

Gwobr Cyflawniad Nyrsio Milfeddygol

Brynbuga – Emma Petrie

Gwobr Cyflawniad Ceffylau

Brynbuga – Katie Burchell

Gwobr Cyflawniad Mynediad

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Selina Richards

Gwobr Cyflawniad Sgiliau

  • Cyfraniad Neilltuol mewn Saesneg – Daniel Rowland
  • Cyfraniad Neilltuol mewn Mathemateg – Charlotte Gould
  • Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth/CBC – Kida Ball

Gwobr yr Iaith Gymraeg

Tegan-Ellen Hopper

Ysbrydoliaeth a Gwydnwch Addysg Uwch

Lauren Morris

Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn

Summer Chick

I gael rhagor o wybodaeth am 鶹ýAV, ewch i: www.coleggwent.ac.uk